Mae Llywodraeth Cymru am ddysgu gan weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion ifanc sydd â phrofiad o ofal am yr hyn sy'n gweithio, ac nad yw'n gweithio, o ran atal troseddoli ac mae'n chwilio am enghreifftiau o arferion da ac arloesol y gellid eu hymgorffori yn ei Phecyn Cymorth a'i Phecyn Hyfforddi. Dyma'r ddolen i'r arolwg arlein: 

https://www.smartsurvey.co.uk/s/ReducingCriminalisationSurvey/  Dosbarthwch i gydweithwyr neu asiantaethau eraill sydd â phrofiad a mewnwelediad perthnasol.

Hefyd, os ydych chi'n gwybod am unrhyw blant neu oedolion ifanc a allai gyfrannu eu barn i'r prosiect hefyd, mae arolwg ar wahân yn: https://www.smartsurvey.co.uk/s/YoungPeopleViews/  Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr arolwg plant a phobl ifanc, neu os oes angen help ar unrhyw un i'w gwblhau, cysylltwch â Johanna Robinson yn johannarobinson@llamau.org.uk.

Y dyddiad cau ar gyfer y ddau arolwg yw 31 Mai 2022.