Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i’r afael â thlodi mislif merched ifanc trwy ddyrannu arian ar gyfer y mater hwn. Bydd cronfa o £3.3 miliwn yn sicrhau bod pob ysgol, coleg a meithrinfa ledled Cymru yn elwa, ac yn gallu darparu cynnyrch hylendid at ddefnydd unrhyw ddysgwyr y gallai fod eu hangen arnynt. Nod gweithredu fel hyn yw caniatáu i ferched barhau â’u haddysg heb golli urddas oherwydd tlodi mislif. Ar ben hyn dyrannir cyfran o gronfa o £220,000 i bob awdurdod lleol i’w helpu i ddarparu cynnyrch hylendid am ddim mewn ardaloedd cymunedol fel llyfrgelloedd a chanolbwyntiau. Trwy weithredu fel hyn, nod Llywodraeth Cymru yw mynd i’r afael â thlodi mislif, a chynyddu urddas yn ystod y mislif. Mae hyn yn golygu sicrhau bod cynnyrch ar gael am ddim i ferched a benywod, ond yn fwy penodol mewn modd ymarferol, urddasol.  Mae’r symudiad hwn wedi bod yn amlwg iawn mewn Cynghorau Ieuenctid ledled Cymru. Dywedodd dau aelod o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin eu bod wedi’u syfrdanu i ddarganfod bod merched yn colli addysg oherwydd tlodi mislif, gan fod un o bob deg merch 14-21 oed yn methu fforddio cynnyrch hylendid.  O’r herwydd, fe benderfynon nhw gychwyn ymgyrch lwyddiannus yn erbyn tlodi mislif yn eu sir, ac fe wnaethon nhw hyd yn oed bartnera â The Body Shop yn Sir Gaerfyrddin i sicrhau bod merched yn gallu cael mynediad at gynnyrch hylendid bob dydd, nid dim ond yn yr ysgol.