Mae Cyswllt Rhieni Cymru wedi lansio dau friffiad polisi newydd, yn rhannu beth ddywedodd rhieni a gofalwyr ledled Cymru wrthyn ni yn ystod ymgyngoriadau grŵp ffocws.
Cyfryngau cymdeithasol, amser sgrîn a diogelwch ar-lein
Bu’r grwpiau ffocws hyn yn archwilio pwysau amser sgrîn, pryderon ynghylch cyfryngau cymdeithasol, a beth sydd ei angen ar deuluoedd i deimlo’n fwy diogel ar-lein.
Bwyta’n iach, maethiad a llesiant corfforol
Roedd y rhain yn archwilio dewisiadau bwyd pob dydd, rhwystrau i drefn arferol iachach, a pha gefnogaeth fyddai’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf.
Mae’r briffiadau’n rhan o Sgwrs Fawr 2025 — ymgynghoriad a arweiniwyd gan Plant yng Nghymru. Nod hynny yw casglu profiadau go iawn, amlygu rhwystrau mae teuluoedd yn eu hwynebu, a chefnogi gwelliannau i wasanaethau a pholisi ledled Cymru.
Gyda’i gilydd, mae’r ddwy ddogfen yn rhoi trosolwg clir o flaenoriaethau rhieni, a ble gallai fod angen mwy o gefnogaeth a datblygu polisi. Y bwriad yw ffurfio ymatebion mwy effeithiol i’r hyn mae teuluoedd yn ei brofi.
Gallwch chi ddarllen y briffiadau polisi yma:
Barn Rhieni ar Ddefnydd o’r Cyfryngau Cymdeithasol gan Blant a Diogelwch Ar-lein
Barn Rhieni ar Fwyta’n Iach, Ymarfer Corff a Llesiant