
Adroddiad Cyflwr Hawliau Merched 2020
Mae Plan International UK wedi cyhoeddi eu hadroddiad terfynol ar-lein, dan y teitl Adroddiad Cyflwr Hawliau Merched 2020.
Mae cyfres newydd o adnoddau wedi cael eu cynhyrchu gan y Prosiect Paratoi i wella gwybodaeth a dealltwriaeth pobl ifanc â phrofiad o ofal o’u hawliau a’r pethau y dylen nhw eu cael wrth gynllunio ar gyfer gadael gofal. Mae modd i bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ddefnyddio’r adnoddau hyn er mwyn cefnogi pobl ifanc i bontio’n ddiogel o ofal, gan leihau perygl digartrefedd a sicrhau sefydlogrwydd tai ymhlith ymadawyr gofal.
Mae’r adnoddau’n canolbwyntio’n benodol ar feithrin gallu ariannol pobl ifanc, yn unol â’r themâu craidd a amlinellwyd yn nogfen Strategaeth Cynhwysiad Ariannol Llywodraeth Cymru:
1. Mynediad at wasanaethau credyd ac ariannol fforddiadwy;
2. Mynediad at wybodaeth ariannol, gan gynnwys cyngor ar ddyledion; a
3. Meithrin dealltwriaeth a gallu ariannol.
I gael rhagor o wybodaeth a mynediad i’r gyfres lawn o adnoddau, ewch i dudalen y Prosiect Paratoi ar ein gwefan: https://www.childreninwales.org.uk/cy/ein-gwaith/plant-syn-derbyn-gofal/prosiect-paratoi/getting-ready-project-resources/
Mae Plan International UK wedi cyhoeddi eu hadroddiad terfynol ar-lein, dan y teitl Adroddiad Cyflwr Hawliau Merched 2020.
Mae gofalwyr ifanc yn blant neu’n bobl ifanc sy’n chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ofalu am aelod o’r teulu. Gallai’r aelod o’r teulu fod yn dioddef o broblemau iechyd corfforol neu feddyliol, anabledd neu broblemau cyffuriau ac alcohol.