Dewch i fwynhau ac archwilio Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn ystod ein horiau agor estynedig bob dydd Iau o 7 Gorffennaf – 1 Medi.

Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn agor ei drysau tan 9pm bob dydd Iau drwy gydol yr Haf.

Gydag oriau agor estyngedig, bydd mwy o gyfleoedd i chi:

  • Gyfarfod am goffi yn yr amgueddfa.
  •  Cymdeithasu gyda ffrindiau yn yr amgueddfa.
  •  Mwynhau y celf yn yr amgueddfa.
  • Crwydro drwy’r arddangosfeydd yn yr amgueddfa.
  •  Ddysgu am orffennol diwydiannol Cymru yn yr amgueddfa

Gall ymwelwyr hefyd roi cynnig ar wneud rhaffau ac argraffu llythrenwasg ar y wasg argraffu haearn hynaf yng Nghymru.

Mae mynediad AM DDIM i’r amgueddfa gyda gostyngiad o 10% i ymwelwyr â’r Amgueddfa yn The Swigg.

Eich Amgueddfa chi ydy Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, a’ch gofod chi i ymweld a’i fwynhau. Felly, dewch draw ar ddydd Iau a gwnewch y mwyaf o’ch ymweliad.

National Waterfront Museum Poster.jpg