Ym mis Gorffennaf 2021, cyhoeddwyd adroddiad ‘Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19'. Fel ymateb, cytunodd Prif Weinidog Cymru i sefydlu Tasglu dan arweiniad Gweinidog i ddatblygu'r gwaith o fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau a amlygwyd gan yr adroddiad, a goruchwylio'r gwaith o roi camau gweithredu ar waith. 

Mae’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl wedi cytuno ar weithgorau i gynnal rhagor o waith ymchwil a gosod camau pellach er mwyn cyrraedd ein huchelgais i adeiladu Cymru gryfach a thecach.  

Bydd y gweithgorau'n para tan 2023, ac maent wedi'u cynllunio i ddod â phobl a sefydliadau ag arbenigedd, profiad byw, a’r gallu i lunio polisïau a’u cyflawni ynghyd i ganolbwyntio ar feysydd blaenoriaeth penodol. Bydd pob gweithgor yn datblygu ac yn cytuno ar gamau gweithredu sydd i'w cyflwyno i'r Tasglu. Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio gwirfoddolwyr ar gyfer y gweithgorau isod: 

 

  • Defnyddio a deall y Model Cymdeithasol o Anabledd (ledled Cymru) – y cyfarfodydd wedi dod i ben i weithredu’r argymhellion 

  • Mynediad at wasanaethau (gan gynnwys cyfathrebu a thechnoleg hygyrch) – y cyfarfodydd wedi dod i ben i weithredu’r argymhellion 

  • Byw'n annibynnol: gofal cymdeithasol – y cyfarfodydd wedi dod i ben i weithredu’r argymhellion 

  • Byw'n annibynnol: iechyd a llesiant – parhau 

  • Teithio – parhau 

  • Cyflogaeth ac incwm – parhau 

  • Plant a phobl ifanc – disgwyl dechrau ym mis Mai 2023 

  • Tai fforddiadwy a hygyrch – disgwyl dechrau ym mis Gorffennaf 2023 

 

Er mwyn cefnogi'r arweinwyr polisi o wahanol adrannau, rydym bellach yn chwilio am unigolion anabl sydd â phrofiad byw o effaith wahaniaethol ableddiaeth ac anableddiaeth i fod yn rhan o’r gweithgorau a restrir uchod. 

Ni fydd angen ichi gynrychioli unrhyw un gymuned neu grŵp anabl penodol. Rydym yn croesawu eich bod yn gallu cynnig profiadau a gwybodaeth am ddeinameg groestoriadol cydraddoldeb sy'n effeithio ar gymunedau o bobl anabl. 

Mae disgwyl i bob gweithgor gynnwys tua 20-30 o bobl. Caiff yr union nifer ei benderfynu yn nes at yr amser. 

 

Bydd gofyn ichi wneud y canlynol: 

  • Mynychu cyfarfodydd achlysurol o’r Gweithgor yn 2022 a 2023. Cynhelir pob cyfarfod o bell. 

  • Gweithio mewn ffordd adeiladol gyda swyddogion polisi dynodedig ac aelodau o'r gweithgor i lywio dealltwriaeth o’r newidiadau sydd eu hangen i wella'r effeithiau anghyfartal ar gymunedau o bobl anabl. 

  • Deall y Model Cymdeithasol o Anabledd a chefnogi ei ddefnyddio wrth ddatblygu gwaith y Tasglu. 

  • O ganlyniad i'r gwaith hwn, cewch gyfle i ddeall sut mae polisïau'n cael eu gwneud, sut mae Llywodraeth yn gweithio, ac ymwybyddiaeth o dirwedd wleidyddol Cymru. 

  • Os hoffech wirfoddoli i fod yn aelod o unrhyw un o'r gweithgorau a restrir uchod, mynegwch eich diddordeb i’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl drwy: DisabilityRightsTaskforce@llyw.cymru  

 

Rydym am gadarnhau bod hwn yn gyfle di-dâl.  

Wrth fynegi eich diddordeb, rhowch wybod pa sefydliad yr ydych yn ei gynrychioli, os ydych yn cynrychioli un. Byddai hefyd yn ddefnyddiol pe gallech gadarnhau a oes arnoch angen dehonglydd BSL neu gefnogaeth adroddwr llais i destyn yn ystod y cyfarfodydd hyn. Bydd y trefniadau sydd eu hangen yn cael eu gwneud gan ein tîm i sicrhau eich bod yn gallu cyfrannu'n llawn at y trafodaethau hyn.