Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw 30 Ionawr. 

 https://www.smartsurvey.co.uk/s/5V46UJ/

Mae mynd i’r afael â thlodi plant yn parhau i fod yn un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, ond Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am lawer o’r dulliau o gyflawni newid. Fodd bynnag, mae camau y gellir eu cymryd yng Nghymru i wella canlyniadau a bywydau y plant a’r bobl ifanc sy’n byw mewn tlodi.

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn galw ar bob un o’n partneriaid allweddol ledled Cymru i ddod ynghyd, gan gryfhau effaith ein hymdrechion ar y cyd drwy weithio gyda’n gilydd tuag at nod cyffredin. Yn rhan o’r gwaith hwn rydym yn diweddaru adroddiad 2015: Strategaeth Tlodi Plant Cymru: adroddiad | LLYW.CYMRU.

Dyma gam cyntaf y gwaith ymgysylltu, lle’r ydym yn gofyn i weithwyr proffesiynol a sefydliadau ddarparu eu safbwyntiau a’u harbenigedd. 

Datganiad Llafar: Cyhoeddi Adroddiad Cynnydd Tlodi Plant 2022 Llywodraeth Cymru (13 Rhagfyr 2022) | LLYW.CYMRU