Llai nag wythnos i fynd tan gofod3 – cyfle olaf i archebu!

Gydag ychydig llai nag wythnos i fynd cyn gofod3 2022, mae lleoedd yn llenwi’n gyflym felly gwnewch yn siŵr nad ydych yn colli allan ac archebwch ar gyfer sesiynau heddiw!

Mae gofod3 yn cymryd lle ar-lein rhwng 20-24 Mehefin a gyda mwy o ddigwyddiadau nag erioed o’r blaen, mae rhywbeth at ddant pawb. O'r argyfwng costau-byw a gwirfoddoli brys i iechyd a diogelwch ac yswiriant seiber - mae yna lu o sesiynau i ddewis ohonynt! 

Gellir gweld y rhaglen lawn yma

RHWYDWEITHIO WYNEB YN WYNEB

Rydyn ni wedi cadw gofod3 ar-lein gan eich bod chi'n caru'r fformat y llynedd. Ond os ydych chi am ddianc o'r sgrin am ychydig a chwrdd â chydweithwyr (hen a newydd) mae gennym ni'r union beth! Gyda chymorth ein partneriaid Cefnogi Trydydd Sector Cymru, mae gennym nifer o ddigwyddiadau rhwydweithio wyneb yn wyneb i chi gymryd rhan yn ystod yr wythnos.

Cymerwch olwg ar y cyfleoedd rhwydweithio yma

P’un a ydych chi’n ymddiriedolwr, yn aelod o staff, yn wirfoddolwr neu’r tri, dyma’ch lle unigryw i fyfyrio, dysgu a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Felly beth ydych chi'n aros amdano?

Cymerwch olwg ar y rhaglen ac archebwch eich sesiynau heddiw!