Cyfle i ymuno â'n Bwrdd Ymddiriedolwyr neu Gyngor Polisi

Ar hyn o bryd, rydym yn gwahodd enwebiadau gan Aelodau i ymuno â Bwrdd Ymddiriedolwyr Plant yng Nghymru a/neu’r Cyngor Polisi, i ddechrau yn eu rolau o’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Hydref 2023.

Enwebiadau ar gyfer y Cyngor Polisi

Bob tair blynedd, rydym yn galw ar enwebiadau i Gyngor Polisi Plant yng Nghymru. Mae enwebiadau yn agored i unrhyw Aelod o Plant yng Nghymru, ac rydym yn annog yn arbennig gynrychiolaeth o ehangder ein haelodaeth draws-sector. Mae'r Cyngor Polisi yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn i drafod materion blaenoriaeth sy'n effeithio ar y sector plant, pobl ifanc a theuluoedd. Hyd yn hyn eleni, mae’r agenda wedi cynnwys trafodaethau ynghylch plant sydd â phrofiad o ofal, yr argyfwng costau byw a thlodi plant, a chyfnod adrodd diweddaraf CCUHP, er enghraifft. Mae cyfranwyr o Lywodraeth Cymru, Swyddfa’r Comisiynydd Plant a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn darparu cyfleoedd ar gyfer cwestiynau ac i glywed barn cydweithwyr o sectorau eraill.

Enwebiadau ar gyfer y Bwrdd Ymddiriedolwyr

Bob blwyddyn, mae'n ofynnol i'n tri Ymddiriedolwr etholedig sydd wedi gwasanaethu hiraf roi'r gorau i'w rôl ar y Bwrdd. Eleni, bydd Patrick Thomas, Deborah Jones a Jackie Murphy yn rhoi'r gorau i'w rolau. Ar ôl gwasanaethu am dymor yn unig, mae Deborah Jones a Jackie Murphy yn gymwys i gael eu hailenwebu os dymunant. Fodd bynnag, mae Patrick Thomas wedi gwasanaethu am ddau dymor a rhaid iddo roi'r gorau i'w rôl am gyfnod o ddwy flynedd cyn y bydd yn gymwys i gael ei enwebu eto. Felly, mae tair rôl ar gael i'w hethol i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ddod yn Ymddiriedolwr

Cliciwch yma i gyflwyno enwebiad - Ymddiriedolwr

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ddod yn Cyngor Polisi

Cliciwch yma i gyflwyno enwebiad - Cyngor Polisi

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw'r 6ed o Fedi.

Conncecting.jpg