Ers haf 2023, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda grŵp o bobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau i’w helpu i ddod yn ymchwilwyr cyfoedion. Mae’r bobl ifanc wedi defnyddio’r sgiliau yma i ddatblygu arolwg a chwestiynau grwpiau ffocws ar gyfer eu cyfoedion ac wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â staff Plant yng Nghymru.

Mae’r prosiect yma’n cael ei ariannu gan y Gronfa Gwybodaeth Gymunedol, drwy ein partneriaid, sef Sefydliad Young ac Ymchwil ac Arloesi y Deyrnas Unedig (UKRI). Byddwn hefyd yn gweithio gydag Egin drwy gydol y prosiect ac rydyn ni am ddiolch i'n holl bartneriaid am eu cefnogaeth.

Dewisodd y bobl ifanc y cwestiwn ymchwil ‘Pa bethau sy’n rhwystro pobl rhag bod yn ecogyfeillgar yn ôl cost, oedran, diwylliant, a’r ardal o Gymru mae pobl yn byw ynddi?’

Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi bod yr arolwg nawr ar agor! Bydden ni wrth ein bodd pe bai unrhyw un o dan 18 oed sy’n byw yng Nghymru yn llenwi’r arolwg, dim ots faint o ddiddordeb sydd ganddyn nhw mewn newid hinsawdd. Rydyn ni am gasglu amrywiaeth o safbwyntiau ar y mater. Bydd yr arolwg yn cau ddydd Mawrth, 12 Mawrth.

Mae’r bobl ifanc a’r staff yn Plant yng Nghymru wedi datblygu dau arolwg, fersiwn fyrrach ar gyfer plant iau (tua 7-11 oed) a fersiwn hirach ar gyfer plant hŷn (tua 12-18 oed).

Dyma’r dolenni:
https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx?id=-nCoM3AcVE6tcEfRbBq9GRzjZMhalw9Mra6KICl2MiBUQUg2QUQyRDJKMVQ1Mlk2MFZDUktBOTRHUCQlQCN0PWcu&lang=cy-GB (y fersiwn iau)

https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx?id=-nCoM3AcVE6tcEfRbBq9GRzjZMhalw9Mra6KICl2MiBUOERWU0dGMFVVNEE1UFUyUE8xOEZVVDRHRiQlQCN0PWcu&lang=cy-GB (y fersiwn hŷn)

Rydyn ni hefyd yn awyddus i glywed os oes gennych chi/unrhyw bobl ifanc rydych chi’n gweithio gyda nhw ddiddordeb mewn ymuno â grŵp ffocws neu gynnal grŵp ffocws er mwyn siarad mwy gyda ni am y mater yma.

Cysylltwch â ni: bethany.turner@childreninwales.org.uk

 

GirlWithWateringCan_compressed.jpg