Pleser yw cyhoeddi bod Gwirfoddolwr Cymru Ifanc, Zjack, wedi cael ei ddewis i ymuno â 5ed Cyngor Plant Eurochild, gan gynrychioli lleisiau plant a phobl ifanc o Gymru a ledled y Deyrnas Unedig ar lwyfan Ewropeaidd. 

Mae Zjack yn cymryd yr awenau gan Arthur, gwirfoddolwr arall o Cymru Ifanc, sydd wedi cwblhau ei dymor dwy flynedd ar y Cyngor yn llwyddiannus. Yn ystod ei gyfnod fel aelod, helpodd Arthur i sicrhau bod barn a phrofiadau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed gan lunwyr penderfyniadau ledled Ewrop. Hoffem ddiolch iddo am ei ymrwymiad a'r cyfraniad cadarnhaol a wnaeth drwy gydol ei dymor. 

Fel aelod o Gyngor Plant newydd Eurochild, bydd Zjack yn gweithio ochr yn ochr â chynrychiolwyr ifanc o bob cwr o Ewrop i hyrwyddo hawliau plant a helpu i siapio materion sydd bwysicaf i bobl ifanc. 

Yn ddiweddarach y mis hwn, bydd Zjack yn teithio i Ddulyn ar gyfer ei gyfarfod Cyngor cyntaf, lle bydd yn cwrdd â chyd-aelodau ac yn dechrau yn ei rôl gyffrous newydd. Mae'r rhaglen lawn yn cynnwys: 

  • Gweithgareddau adeiladu tîm a chyfleoedd i ddod i adnabod aelodau eraill y Cyngor a thîm Eurochild 
  • Sesiynau hyfforddi ar gyfranogiad plant a'r Undeb Ewropeaidd 
  • Cyfarfod gydag Ombwdsmon Plant Iwerddon 
  • Cyfarfod gyda Bwrdd Rheoli Eurochild 
  • Dau ddigwyddiad hawliau plant a drefnwyd ar y cyd gan Eurochild a Chynghrair Hawliau Plant Iwerddon, gan gynnwys y gynhadledd Break the Cycle

Bydd y cyfle pwysig hwn yn caniatáu i Zjack ddatblygu sgiliau newydd, meithrin cysylltiadau rhyngwladol a sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc o Gymru a'r Deyrnas Unedig yn cael eu cynrychioli mewn trafodaethau sy'n llunio dyfodol hawliau plant ledled Ewrop. 

Dymunwn bob llwyddiant i Zjack wrth iddo ddechrau'r daith gyffrous hon. Rydyn ni'n gwybod y bydd yn llysgennad ac yn eiriolwr gwych dros blant a phobl ifanc, gan gynrychioli Cymru, y Deyrnas Unedig ac Ewrop gyda brwdfrydedd, hyder ac angerdd. 

Os hoffet ti, neu unrhyw un rwyt ti’n ei adnabod, fod yn wirfoddolwr Cymru Ifanc, mae croeso i ti gysylltu â thîm Cymru Ifanc: young.wales@childreninwales.org.uk