Mae grŵp o brif elusennau plant Cymru’n galw ar i bob plaid wleidyddol roi anghenion babis a phlant lleiaf ynghanol eu polisïau ar gyfer y Senedd nesaf.  Daw’r galwadau mewn ymateb i gorff cynyddol o dystiolaeth sy’n dangos gymaint o effaith niweidiol mae’r cyfnod clo yn ei gael ar fabis a phlant bach. Dangosodd ymchwil diweddar fod mwy o ofid ymysg rhieni newydd am eu hiechyd meddwl, gan gynnwys cynnydd mewn gorbryder a lleihad yn y gallu i ymdopi – ac mai teuluoedd sydd eisoes dan anfantais sydd wedi’u heffeithio waethaf.  Yn ogystal, mae ymchwil yn cyfeirio at ‘niwed cudd’ sy’n effeithio ar blant rhwng 0-2 oed yn arbennig, gan gynnwys llai o gyfle i ddefnyddio gwasanaethau, peryglon iechyd a datblygiad sy’n gysylltiedig â threulio mwy o amser dan do a chyfyngu ar ymwneud cymdeithasol, a chynnydd yn y tebygolrwydd o fod yn agored i brofiadau trawmatig ac amddifadedd materol.

Daw’r alwad gan y Grŵp Gweithredu Blynyddoedd Cynnar, a gynullwyd gan Plant yng Nghymru ac sy’n cynnwys BookTrust Cymru, Blynyddoedd Cynnar Cymru, Home Start Cymru, Mudiad Meithrin, NSPCC Cymru/Wales, Chwarae Cymru, PACEY Cymru ac Achub y Plant.  Yn ôl Anna Westall, Swyddog Polisi gyda Plant yng Nghymru: “Rydyn ni wedi gwybod ers cryn amser mor bwysig yw’r 1,000 o ddyddiau cyntaf ar gyfer gweddill bywyd rhywun. Mae’r cyfnod hwn yn cael effaith hirdymor ar ddatblygiad deallusol, emosiynol a chymdeithasol plant, gan effeithio canlyniadau addysgol, perthynas a chyfle yn y dyfodol ac iechyd corfforol a meddyliol mwy hirdymor. Wrth gwrs, mae profiadau cyfoethog a chadarnhaol hefyd yn creu manteision ar unwaith i blant, yn enwedig i’w llesiant. Rhoddwyd llawer o sylw i brofiadau plant oedran ysgol yn ystod Covid. Ond allwn ni ddim â fforddio i esgeuluso anghenion ein plant lleiaf os ydyn ni’n mynd i osgoi ymestyn faint o amser fydd hi’n ei gymryd i ni ddelio ag effaith y pandemig.”  Mae’r alwad yn gofyn ar i bleidiau gwleidyddol ymrwymo i roi anghenion babis wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, ac i gefnogi hyn gyda chyllid, mwy o gydlyniant ar draws gwasanaethau a throsolwg ar lefel Cabinet.  Mae’r grŵp hefyd yn galw am roi mwy o gymorth i bobl sy’n gofalu am blant ac sy’n gweithio gyda nhw, boed fel rhieni a gofalwyr neu ymarferwyr blynyddoedd cynnar a gweithwyr proffesiynol eraill, yn ogystal â chynyddu ymwybyddiaeth gyhoeddus ehangach o’r hyn sy’n gwneud y 1,000 diwrnod cyntaf mor bwysig.

Meddai Dr Sarah Witcombe-Hayes, Uwch Ymchwilydd Polisi yn NSPCC Cymru/Wales: ‘Mae babis gafodd eu geni yn ystod y pandemig wedi bod yn ddibynnol ar ofal oddi wrth rieni sy’n fwy tebygol o fod yn profi mwy o straen, bod yn gymdeithasol ynysig a phroblemau iechyd meddwl. Ond mae llawer o rieni newydd nad ydyn nhw’n derbyn y gefnogaeth sydd ei angen arnynt ar gyfer eu hiechyd meddwl am fod bylchau yn y gwasanaethau hanfodol hyn yng Nghymru. Mae angen gweithredu ar frys i helpu teuluoedd i adfer drwy sicrhau fod cefnogaeth iechyd meddwl ôl-enedigol ar gael i bob teulu waeth ble maen nhw’n byw. Heb hyn, mae gwir ofid y bydd y pandemig yn cael effaith niweidiol ar iechyd meddwl a llesiant rhieni a babis sy’n ddifrifol ac yn mynd i bara am amser maith.’

Mae’r grŵp hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd buddsoddi mewn cefnogi plant yn y cartref, yn ogystal ag mewn ysgolion a lleoliadau, ac i ddysgu oddi wrth brofiadau Covid – rhai cadarnhaol a negyddol.  Dywedodd Bethan Webber, Prif Weithredwr Home Start Cymru: ‘Yn hollol gywir, bu llawer o sylw ar gael plant yn ôl i’r ysgol. Er mor bwysig yw hyn, rhaid i ni beidio ag anghofio am y rôl hanfodol mae amgylchedd y cartref yn ei chwarae mewn ffurfio datblygiad cynharaf plentyn. Ac er bod yr un mis ar ddeg diwethaf wedi bod yn heriol i nifer, rhaid i ni beidio ag anghofio fod rhai teuluoedd wedi cael profiadau bendithiol o fod gyda’i gilydd yn ystod y cyfnod clo. Mae angen i ni ddysgu oddi wrth yr holl brofiadau hyn os ydyn ni’n mynd i ddod o hyd i atebion creadigol i’n helpu i fyw dyfodol gwell ar gyfer y genhedlaeth nesaf.’

Gwelwch gopi o’r Maniffesto ar gyfer Etholiadau’r Senedd 2021: Grŵp Gweithredu’r Blynyddoedd Cynnar yma: Early Years Action Group Manifesto 2021 Welsh

Mae dwy astudiaeth achos go iawn wedi eu paratoi i gefnogi’r negeseuon a godwyd yn y Maniffesto. Ewch atynt yma:

Manifesto Case Study 1.docx

Manifesto Case Study 2

Ymchwil a ddyfynnir

Babies in Lockdown, Best Beginnings, Home Start, Parent-Infant Foundation, Awst 2020 https://babiesinlockdown.files.wordpress.com/2020/08/babies-in-lockdown-main-report-final-version-1.pdf

Working for Babies, First 1001 Days Foundation, Ionawr 21

https://parentinfantfoundation.org.uk/wp-content/uploads/2021/01/210115-F1001D-Working-for-Babies-Report-FINAL-v1.0-compressed.pdf