Heddiw, mae Plant yng Nghymru, ar ran Grŵp Gweithredu'r Blynyddoedd Cynnar (EYAG), yn lansio ei faniffesto ar gyfer babanod a phlant ifanc cyn Etholiad y Senedd yn 2026. Mae'r maniffesto yn galw ar bob plaid wleidyddol i wneud babanod a phlant ifanc yn flaenoriaeth ar draws pob maes polisi a deddfwriaeth, gan gydnabod pwysigrwydd hanfodol y blynyddoedd cynnar mewn llywio canlyniadau gydol oes.
Mae pob babi yng Nghymru yn haeddu'r dechrau gorau mewn bywyd: bod yn hapus, yn iach, a chael eu meithrin, gyda'r gofal a'r sylw sydd eu hangen arnynt i dyfu a ffynnu. Mae'r 1,000 diwrnod cyntaf, o genhedlu hyd at ddwy oed, yn cynrychioli ffenestr unigryw o gyfle. Yn ystod y cyfnod hwn, gosodir y sylfeini ar gyfer iechyd, dysgu a lles gydol oes. Gall yr hyn sy'n digwydd yn y dyddiau cynnar hyn siapio gweddill bywyd plentyn.
Mae'r maniffesto yn cyflwyno galwadau clir i weithredu ar gyfer pob plaid wleidyddol, gan gynnwys:
- Sicrhau bod hawliau plant yn cael eu parchu o'u genedigaeth drwy ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn llawn yng nghyfraith Cymru a chynyddu ymwybyddiaeth o sut mae'r hawliau hyn yn berthnasol i fabanod a phlant ifanc iawn.
- Rhoi babanod a phlant ifanc wrth galon llunio polisïau drwy fuddsoddi mewn hybiau cymunedol lleol, cefnogi gwasanaethau arbenigol ar gyfer y berthynas rhwng rhieni a babanod, a phenodi Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer babanod, plant a phobl ifanc.
- Buddsoddi mewn cefnogaeth gynnar i deuluoedd i sicrhau y gallant gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt, pryd bynnag y bydd ei angen arnynt, lle bynnag y maent yn byw.
- Gweithio i ddileu tlodi ymysg babanod a phlant ifanc, gan sicrhau bod gan bob teulu incwm digonol a mynediad at eitemau hanfodol fel bwndeli babanod a chymorth ariannol.
Yn siarad ar ran Grŵp Gweithredu'r Blynyddoedd Cynnar, dywedodd Anna Westall:
“Mae ymennydd babanod yn datblygu’n gyflymach nag y byddant byth eto. Mae'r hyn sy'n digwydd yn ystod y dyddiau cynnar hyn yn siapio gweddill eu bywydau. Rydym yn galw ar bob plaid wleidyddol yng Nghymru i ymrwymo i gydnabod a diwallu anghenion babanod a phlant ifanc, gan sicrhau eu bod nhw a'u teuluoedd wrth galon polisi a gwneud penderfyniadau.”
Ychwanegodd Leo Holmes, Pennaeth Polisi ac Eiriolaeth gyda Blynyddoedd Cynnar Cymru:
“Rydym wrth ein bodd yn cefnogi Maniffesto Grŵp Gweithredu’r Blynyddoedd Cynnar, sy’n galw am roi babanod a phlant ifanc wrth galon llunio polisïau. Mae'r maniffesto’n tynnu sylw at effaith ddinistriol tlodi ar ddatblygiad cynnar a pham mae buddsoddiad gan y llywodraeth i ddileu tlodi plant yn hanfodol. Drwy gyfuno gweithredu ar unwaith â mentrau polisi tymor hwy, mae'r galwadau'n cael eu sbarduno gan werthoedd ac yn rhagweld dyfodol sydd wedi'i wreiddio mewn tegwch. Roedd yn anrhydedd cyfrannu at y gwaith hwn.”
Mae Grŵp Gweithredu’r Blynyddoedd Cynnar yn tynnu ynghyd sefydliadau blaenllaw yn y trydydd sector sy'n canolbwyntio ar wella canlyniadau yn y blynyddoedd cynnar. Wedi'i gynnull gan Plant yng Nghymru, mae'r aelodau'n cynnwys BookTrust Cymru, Blynyddoedd Cynnar Cymru, Home-Start Cymru, Mudiad Meithrin, Achub y Plant Cymru, NSPCC Cymru, Chwarae Cymru, y Parent Infant Foundation, a NYAS. Mae'r maniffesto ar gael i'w ddarllen yn llawn yma, ac mae Plant yng Nghymru yn croesawu adborth gan aelodau a phartneriaid cyn y cyhoeddiad terfynol yn nes ymlaen eleni.