Dod o Hyd i’ch Ffordd – Canllaw i unrhyw un sy’n cael trafferth i ymdopi

Lansio adnodd newydd

Wedi cyfnod digynsail o darfu ac ansicrwydd, gwyddom fod llawer o bobl wedi dioddef trawma ac iechyd meddwl gwael. Mae’r pandemig wedi gwaethygu anghydraddoldebau i lawer o bobl yng Nghymru ac mae’r rhai oedd yn agored i niwed ar ddechrau’r cyfnod bellach yn wynebu lefelau uwch o drallod nag erioed o’r blaen.

Ar yr adeg anodd hon, rydym yn falch i lansio adnodd newydd i Gymru, ar gyfer unrhyw un sy’n cael trafferth i ymdopi. Mae hyn yn cynnwys y rhai sydd wedi sylwi bod eu llesiant wedi dirywio, y rhai sy’n teimlo’n unig neu wedi’u hynysu, a’r rhai sy’n teimlo’n hunanladdol. Mae Dod o Hyd i’ch Ffordd yn cynnwys gwybodaeth hollbwysig am hunan-niwed, ac rydym yn falch o gael adrannau gwych oddi wrth sefydliad Heads Above the Waves (HATW) sy’n canolbwyntio’n gryf ar brofiad byw. Mae’r adnodd hefyd yn cynnwys cynlluniau diogelwch ar gyfer hunan-niwed a hunanladdiad, sy’n gallu bod yn offer achub bywyd i’r rhai sy’n cael trafferth i ymdopi.