Mae gwasanaethau cymorth rhianta a theuluoedd ledled Cymru yn wynebu galw cynyddol, cymhlethdod cynyddol a phwysau parhaus. Mae adroddiad Cyflwr Rhianta eleni yn tynnu sylw at deuluoedd sy'n profi heriau sy'n gorgyffwrdd gan gynnwys Niwroamrywiaeth ac Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), pryderon iechyd meddwl, gwrthod mynd i'r ysgol, trais gan blant tuag at rieni, tlodi, ansicrwydd tai ac effaith yr argyfwng costau byw. 

Niwroamrywiaeth ac Anghenion Dysgu Ychwanegol yw'r prif ffactorau sy’n achosi atgyfeiriadau o hyd, gyda rhestrau aros hir a mynediad cyfyngedig at gymorth arbenigol yn gadael llawer o deuluoedd yn ymdopi ag anghenion cynyddol gymhleth. Er gwaethaf y pwysau hwn, mae gwasanaethau ledled Cymru yn parhau i ddangos arfer cryf, sy'n cael ei arwain gan werthoedd, drwy ddulliau hyblyg, ataliol sy'n canolbwyntio ar y teulu, cryfhau gweithio mewn partneriaeth a rhoi cefnogaeth dros dro i deuluoedd sy'n aros am gymorth arbenigol. 

Mae'r canfyddiadau’n dangos y dwys angen am gyllid cynaliadwy, buddsoddiad yn y gweithlu, lleihau cyfnodau aros a chyfeiriad cenedlaethol cliriach i alluogi cefnogaeth gynnar ac effeithiol a chanlyniadau hirdymor gwell i deuluoedd. 

Darllenwch yr adroddiad llawn i archwilio'r canfyddiadau, y mewnwelediadau a'r argymhellion yn fanylach.