Mae Plant yng Nghymru wedi cyhoeddi’r adroddiad o’u Harolwg Blynyddol o Aelodau sy’n ystyried effeithiau ac etifeddiaeth Covid-19.

Ffocws ein gwaith ymchwil oedd sicrhau cipolwg ar sut mae ein haelodau wedi ymateb i effeithiau Covid-19, a’u gallu i gynnal ymgysylltiad â phlant, pobl ifanc a theuluoedd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Gan adeiladu ar ganfyddiadau ein hastudiaeth flaenorol, a gynhaliwyd ym mis Mai 2020, roedden ni am sicrhau dealltwriaeth o’r dulliau a’r strategaethau a fabwysiadwyd ar hyd y pandemig, a sut mae defnyddwyr gwasanaeth wedi ymateb i wahanol dechnegau ymgysylltu, ac a oedd yn debygol o gael eu cadw i’r dyfodol.