Adroddiad Cyflwr Hawliau Merched 2020
Mae Plan International UK wedi cyhoeddi eu hadroddiad terfynol ar-lein, dan y teitl Adroddiad Cyflwr Hawliau Merched 2020.
Rydyn ni’n galw ar blant a phobl ifanc 11-25 mlwydd oed o bob rhan o Gymru i ymuno â menter newydd Cymru Ifanc, o’r enw "Y Sgwrs Fawr".
Mae’r prosiect hwn yn llwyfan i bobl ifanc gael ymgysylltu â’r 7 thema allweddol y mae Cymru Ifanc yn gweithio arnyn nhw gyda’u Byrddau Cynghori pobl ifanc:
Ond nid siarad yn unig mo bwriad y Sgwrs Fawr, mae’n golygu gweithredu. Bydd y safbwyntiau sy’n cael eu casglu’n cael eu cyflwyno’n uniongyrchol i Weinidogion Llywodraeth Cymru yn 2025, gan sicrhau bod safbwyntiau plant a phobl ifanc yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau.
Drwy gydol hydref 2024, bydd ein haelodau tîm yn teithio ledled Cymru’n cynnal sesiynau gyda grwpiau o bobl ifanc bob wythnos. Rydyn ni wedi cyffroi’n lân am gael mynd allan ar y ffordd a chychwyn ar ein taith!
Canolbwynt y prosiect wedyn fydd Gŵyl Cymru Ifanc, yn Sbarc, Caerdydd, i’w chynnal Tachwedd 16eg, 2024. Yma, bydd grwpiau ffocws a thrafodaethau dwfn yn helpu i siapio’r negeseuon allweddol y bydd ein gwirfoddolwyr yn eu cario gyda nhw pan fyddan nhw’n cwrdd â Gweinidogion Llywodraeth Cymru.
Pam mae’r Sgwrs Fawr yn Bwysig?
Nod y Sgwrs Fawr yw codi lleisiau plant a phobl ifanc yng Nghymru i sicrhau eu bod yn cael eu clywed gan lunwyr penderfyniadau.
Bydd yr adborth a gesglir yn cael ei gyfuno i lunio adroddiad gan staff Cymru Ifanc yn 2025, gan adlewyrchu nid yn unig ar beth mae pobl ifanc yn ei feddwl, ond hefyd sut gall eu mewnbwn ddylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau.
Sut mae’n Gweithio?
Bydd y rhai sy’n mynd i’r sesiynau a gynhelir gan ein tîm Cymru Ifanc yn cael cyfle i ymuno â’r Sgwrs Fawr a rhoi eu barn ar ein themâu a phynciau allweddol. Byddant hefyd yn cael arolwg caeedig i gyflwyno eu barn yn breifat.
Yn ystod Gŵyl Cymru Ifanc, bydd plant a phobl ifanc wedyn yn cael cymryd rhan mewn trafodaethau a grwpiau ffocws pellach i helpu cael fersiwn derfynol o’r negeseuon allweddol.
Ond mae’r digwyddiadau hyn yn ymwneud â mwy na dim ond cael sgwrs, eu bwriad yw cael effaith. Rydym am sicrhau y gall plant a phobl ifanc gael eu lleisiau wedi’u clywed a bod yn rhan o siapio dyfodol Cymru.
Am fwy o wybodaeth, neu i gymryd rhan, cysylltwch â Cymru Ifanc ar young.wales@childreninwales.org.uk
Mae Plan International UK wedi cyhoeddi eu hadroddiad terfynol ar-lein, dan y teitl Adroddiad Cyflwr Hawliau Merched 2020.
Beth am ein helpu i ddathlu Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel 2021 heddiw a dal i fyny ar ddigwyddiad rhwydweithio a drefnodd Plant yng Nghymru yr wythnos diwethaf?