Ers 15 Ebrill 2024, mae ein tîm wedi newid swyddfa yn swyddogol, a bellach wedi’u lleoli yn Sparc, Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol cyntaf y byd, sy’n rhan o Gampws Arloesedd Prifysgol Caerdydd.

Rydyn ni’n gyffrous iawn ein bod yn ymuno â chymuned Spark, ac rydyn ni’n methu aros i gydweithio â llawer o’n haelodau a’n partneriaid sydd eisoes yn yr adeilad.

Nod Spark yw dod â phartneriaid sector cyhoeddus, preifat a thrydydd sector at ei gilydd, fel eu bod yn cael cyfle i greu a phrofi syniadau arloesol sy’n gallu helpu i adeiladu cymdeithas well. Lluniwyd y lleoliad i hwyluso rhwydweithio a chydweithio, a dyna pam roedden ni’n benderfynol o symud yno.

Mae eisoes yn gartref i nifer o sefydliadau plant allweddol, gan gynnwys sawl un o’n haelodau, felly mae hwn yn gyfle gwych i Plant yng Nghymru wella ein dull cydweithredol o greu Cymru lle mae holl hawliau pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu gwireddu.

Mae ein tîm wedi mwynhau archwilio’r safle gwaith newydd, ac maen nhw wrthi’n gyffrous yn ymgartrefu yno. Rydyn ni’n credu mai dyma’r lle perffaith i barhau â’n gwaith a chreu prosiectau ar y cyd â’n haelodau a’n gwirfoddolwyr ifanc.

Mae’r adeilad yn cynnwys amrywiaeth o nodweddion a mannau y gallwn eu defnyddio, fel ein bod yn gallu annog mwy o waith effeithiol wyneb yn wyneb, gan amrywio mwy ar yr hyfforddiant rydyn ni’n ei gyflwyno, a chodi’n digwyddiadau i lefel uwch. Mae’n dal yn agos at Ganol Dinas Caerdydd, ac yn hygyrch iawn, gan fod modd cerdded i orsaf drenau Cathays mewn 10 munud.

Rydyn ni’n gobeithio bydd ein haelodau a’n gwirfoddolwyr ifanc gymaint wrth eu bodd yn ein cartref newydd ag y mae ein tîm, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu chi i gyd i’n lle newydd!

Spark Lobby COMPRESSED.jpg