Llongyfarchiadau i Amanda Amaya sydd wedi ennill taleb Amazon gwerth £50 yng nghystadleuaeth ffotograffiaeth Rhieni'n Cysylltu Cymru ‘Cyfleu Bywyd Rhiant’.

Photo Competition News Story Winner.JPG

Ar hyd mis Hydref 2023, bu Rhieni'n Cysylltu Cymru, un o brosiectau Plant yng Nghymru, yn defnyddio dull creadigol o estyn allan at rieni i ganfod sut brofiad yw bywyd iddyn nhw mewn gwirionedd.

Daeth dros 160 o gynigion i law, pob un ohonynt yn dangos eu diffiniad unigryw o ‘Fywyd Rhiant’. Roedd y delweddau’n amrywio, ond gyda’i gilydd yn crynhoi llawenydd a heriau bod yn rhiant, yn ogystal ag elfennau allweddol o ‘rianta cadarnhaol.’ 

Y 6 thema allweddol y daeth Rhieni'n Cysylltu Cymru ar eu traws oedd:

  • Heriau
  • Llanast a dim modd rhagweld
  • 24/7
  • Parodrwydd i addasu 
  • Munudau arbennig a llawen
  • Meithrin 

Bydd llawer o rieni sy’n darllen hyn yn adnabod ac yn teimlo empathi ynghylch y themâu a amlygwyd. Mae uchafbwyntiau a chyfnodau anodd yn rhan o fagu plant, ond mae cysyniadau fel ‘meithrin’ a ‘pharodrwydd i addasu’ yn amlygu cadernid a thynerwch teuluoedd lawer ar draws y wlad.  

Roedd gweld cipluniau o fywydau cynifer o bobl yn ein hysbrydoli ac yn gwneud i ni deimlo’n ostyngedig iawn, ac yn crynhoi’n berffaith y syniad o daith rhiant.  

Er bod enw’r enillydd wedi cael ei dynnu o’r het ar hap, cawsom ein cyffwrdd yn fawr gan gynnig Amanda, oedd yn dwyn y teitl “Dy wylio di’n tyfu yw fy llawenydd pennaf.”  Roedd y llun syml hwn, oedd yn llawn emosiwn, yn crisialu’n berffaith thema’r gystadleuaeth, ac rydyn ni mor gyffrous wrth ei rannu gyda chi nawr.

​​​​

Photo Competition News Story.JPG

Roedd y gystadleuaeth ffotograffiaeth yn rhan o ymgynghoriad ehangach gan Cyswllt Rhieni Cymru. Y nod oedd casglu gwybodaeth gan rieni ynghylch y gefnogaeth a’r wybodaeth mae arnyn nhw eu hangen ar eu taith fel rhieni, o eni eu plant nes eu bod yn 18, a hefyd mesur ymwybyddiaeth o’r cymorth magu plant sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru a Gwefan ac Ymgyrch Magu Plant. Rhowch Amser Iddo.

Diolch i bawb a fu’n cystadlu. Rydyn ni’n gwerthfawrogi eich adborth ac yn falch o helpu i chwyddo lleisiau rhieni, gan eu galluogi i lywio a ffurfio polisïau Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am Rhieni'n Cysylltu Cymru, ewch i'r dudalen yma.