Ddydd Sadwrn, 19 Tachwedd 2022 bu Plant yng Nghymru yn dathlu Diwrnod Byd-eang y Plant yn ein digwyddiad Gŵyl Cymru Ifanc yn Sain Ffagan, Caerdydd. Roedd y digwyddiad yn agored i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru, ac yn gyfle iddyn nhw ymgysylltu’n uniongyrchol â llunwyr penderfyniadau, gan gynnwys y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle AS, Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, a Gweision Sifil Uwch o Lywodraeth Cymru. Cefnogwyd y digwyddiad trwy garedigrwydd Amgueddfa Cymru, Amitech IT, Limegreen Tangerine, Citrus HR and Darwin Gray LLP

Roedd gan ein gwirfoddolwyr ifanc, oedd yn gweithredu fel Cadeiryddion a Chyflwynwyr, hyn i’w ddweud am y digwyddiad yn gyffredinol:

“Y nod oedd creu cysylltiad rhwng pobl ifanc a llunwyr penderfyniadau.
Roedd diwylliant hawliau plant yn llifo trwy’r digwyddiad ac yn daearu’r sgyrsiau.”
 
“Roedd yn dda cwrdd â phobl ifanc o rannau eraill o’r sefydliad a chlywed ar beth maen nhw wedi bod yn gweithio.”

Dechreuodd y diwrnod gyda pherfformiadau anhygoel gan Anthem. Roedd pobl ifanc Cronfa Gerddoriaeth Cymru a’r ardal arddangos bysus yn llawn stondinau oedd â rhywbeth gwahanol i’w gynnig a’i rannu gyda phawb. 
Ar hyd y dydd, bu ein gwirfoddolwyr o Cymru Ifanc yn rhoi cyflwyniadau ar feysydd blaenoriaeth allweddol i’r gynulleidfa a swyddogion o Lywodraeth Cymru. Cafodd y rhai oedd yn bresennol gyfle hefyd i ofyn cwestiynau i’r gwirfoddolwyr a’r swyddogion ynghylch y materion a godwyd ar ôl y cyflwyniadau.

Bu aelodau grŵp Adroddiad Pwyllgor y CU yn sôn am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) a’r arolwg y bu’r grŵp yn ei greu ar y cyd â staff Cymru Ifanc, a roddodd gyfle i blant a phobl ifanc ledled Cymru leisio barn ar ystod o faterion pwysig. Os hoffech chi ddysgu mwy am CCUHP a Hawliau Plant yn gyffredinol, dilynwch y ddolen hon).

Bu Archwilwyr Ifanc y Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol yn trafod beth mae eu rolau’n golygu iddyn nhw, a’u profiadau o fod yn Archwilwyr Ifanc. Ar ôl y digwyddiad, dywedodd un archwilydd ifanc “Fe wnes i fwynhau cwrdd â gwahanol bobl a Llywodraeth Cymru.” Os hoffech chi ddysgu mwy am y Safonau, dilynwch y ddolen hon.

Soniodd aelodau’r Grŵp Diddordeb Arbennig Addysg a Chyfiawnder Cymdeithasol (SiG) am brif flaenoriaethau’r grŵp – iechyd meddwl, tlodi a hunaniaeth rhywedd a chamwahaniaethu ar sail hynny, yn ogystal ag ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru y bu’r grŵp yn ymwneud â nhw

YW Anthem Music picture.jpg YW SIG members.jpg

Bu aelodau’r Grŵp Diddordeb Arbennig Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (SIG) / Grŵp Cenedlaethol Rhandeiliaid Ieuenctid (NYSG) yn trafod blaenoriaethau’r grwpiau ac yn awgrymu camau nesaf i Lynne Neagle AS, er mwyn gwella’r gefnogaeth iechyd meddwl i bobl ifanc. Dywedodd un person ifanc a fu’n cyflwyno yn y sesiwn hon “Roedd yn dda dangos i bawb oedd yno ar beth roedden ni wedi bod yn gweithio, fel y pecyn offer COVID 19 a’r Rhestr Darllen yn Dda.” Dywedodd y person ifanc oedd yn Gadeirydd ar y grŵp yma “Roedd yn hwyl rhwydweithio a siarad â’r Gweinidogion a dangos i Lynne ar beth rydyn ni wedi bod yn gweithio ym maes iechyd meddwl.”

Bu’r cynrychiolwyr hefyd yn mynychu gweithdai rhyngweithiol a gyflwynwyd gan arbenigwyr ar faterion oedd yn berthnasol i bobl ifanc. Gwelodd rhai sut mae pobl ifanc wedi dylanwadu ar ffocws Sain Ffagan, tra dysgodd eraill fwy am CCUHP gan dîm Cymru Ifanc. Yn dilyn hynny, clywodd rhai am effaith byd natur ar iechyd a sut gallan nhw warchod ac ymgysylltu â byd natur, tra bu eraill yn trafod cysyniad dinasyddiaeth fyd-eang a pherthynas hynny â materion fel y newid yn yr hinsawdd.

Cynllun Plant a Phobl Ifanc Llywodraeth Cymru, a ryddhawyd ym mis Mawrth 2022, oedd ffocws stondin arddangos Cymru Ifanc. Roedd ein gêm Bullseye, oedd yn cynnwys targed mawr lliwgar, pêl sbonciog, a llawer o wobrau difyr, yn archwilio 7 nod y cynllun PPI, sy’n troi o gwmpas pobl ifanc. Ar y stondin cafwyd sgyrsiau gyda phobl ifanc am CCUHP, yn ogystal â’r gwaith a wnaed gan Cymru Ifanc a Plant yng Nghymru. Arweiniodd hynny hyd yn oed at drafodaethau dyfnach gydag ymwelwyr â Sain Ffagan ynghylch cyfleoedd i wirfoddoli gyda Cymru Ifanc

Roedd ein stondin arddangos yn un o lawer y gallai pobl ifanc ymweld â hi yn ystod y dydd i ddysgu mwy am yr amrywiol elusennau, prosiectau a rhaglenni sy’n cefnogi plant a phobl ifanc yng Nghymru, gan gynnwys ein harddangosfa Prosiect Amgueddfa. Bu pobl ifanc o bob rhan o Gymru yn cyflwyno’u ffotograffau, eu cerddi a’u gwaith celf i’r prosiect, y cyfan wedi’i seilio ar thema ‘Beth mae hawliau plant yn golygu i chi?’ Bu ein gwirfoddolwyr o Cymru Ifanc yn cyflwyno’r gwaith gwych i Rocio Cifuentes a swyddogion o Lywodraeth Cymru, ac yn arddangos yr ymdrech amlwg roedd pobl ifanc ar draws Cymru wedi’i gwneud.

YW CR exhibition.jpg YW exhibition area.jpg​​​​​​​

At ei gilydd, roedd Gŵyl Cymru Ifanc yn ddiwrnod gwych i anrhydeddu Diwrnod Byd-eang y Plant. Roedd yn llwyfan i’n gwirfoddolwyr rannu eu gwaith rhyfeddol, yn gyfle i fod yn rhan o weithdai gwych, a hefyd yn gyfle i gwrdd â llunwyr penderfyniadau o bwys yng Nghymru. Yn bwysicaf oll, roedd yn dathlu hawliau plant a phobl ifanc, gan sicrhau yn y pen draw ei fod yn “ddiwrnod da, a phrofiad da.”