Taclo Bwlio Cysylltiedig â Thlodi

Adnodd arweiniol newydd sy’n rhan o gyfres adnoddau Taclo Effaith Tlodi ar Addysg

Mae Plant yng Nghymru wedi cynhyrchu canllaw newydd i ymdrin â bwlio cysylltiedig â thlodi mewn ysgolion, y mae astudiaethau diweddar yn awgrymu y gallai hyd at draean o blant a phobl ifanc fod yn ei wynebu. Mae’r canllaw hwn yn edrych ar sut gall bwlio cysylltiedig â dlodi ddod i’r amlwg ym mywyd yr ysgol a’i effaith niweidiol bosibl. Gyda mewnbwn gan blant a phobl ifanc, mae’r canllaw yn nodi camau ymarferol y gall ysgol eu cymryd i atal hyn rhag digwydd, ac i wella llesiant a chyrhaeddiad dysgwyr. Cewch hyd i’r canllaw yma.

shutterstock_1195675963 (1).jpg