Mae Plant yng Nghymru yn falch o gyhoeddi lansio’r Adduned ar gyfer Babanod yng Nghymru, a ddatgelwyd yng nghynhadledd Rhwydwaith Hawliau Plant y Blynyddoedd Cynnar (CREYN) eleni. Mae’r garreg filltir hon yn gam sylweddol ymlaen o ran cydnabod hawliau ac anghenion unigryw babanod ledled Cymru ac ymateb iddynt.

Mae’r Adduned yn galw ar bob unigolyn, gweithiwr proffesiynol a sefydliad sy’n ymwneud â bywydau babanod i ymrwymo i gydnabod gwahanol anghenion, profiadau a safbwyntiau babanod ym mhob penderfyniad sy’n effeithio arnyn nhw. Mae babanod yn cael eu geni yn barod i gyfathrebu. Mae ganddyn nhw eu meddwl eu hunain, eu hanghenion unigryw, a’r hawl i gael gwrandawiad ac ymateb, ymhell cyn iddynt allu defnyddio geiriau. Datblygwyd yr adduned hon i dynnu sylw at bersbectif y baban, ac mae’n gyfle i bawb sy’n gofalu am fabanod ac yn gweithio gyda nhw a’u teuluoedd gydnabod a gwerthfawrogi llais ac anghenion babanod ac ymateb iddynt.

Mae’r Adduned Babanod, a ddatblygwyd trwy brosiect cydweithredol rhwng Plant yng Nghymru a Phrifysgol Abertawe, wedi’i seilio ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ac mae’n canolbwyntio ar 1000 Diwrnod Cyntaf bywyd plentyn. Fe’i chydgynhyrchwyd â chyfraniadau gan rieni, gofalwyr a’u babanod, a gweithwyr proffesiynol, ac mae’n manteisio ar ystod eang o brofiadau academaidd, proffesiynol a phrofiadau bywyd.

O dan arweiniad rhwydwaith CREYN, roedd dau gylch ymgynghori yn rhan o’r broses ddatblygu, er mwyn sicrhau bod yr Adduned yn wir yn adlewyrchu’r pethau pwysicaf i fabanod a’r rhai sy’n eu cefnogi. Mae’n annog oedolion i wrando ar fabanod wrth ymwneud â nhw bob dydd, mewn lleoliadau gofal, ac wrth wneud penderfyniadau ehangach ynghylch gwasanaethau a pholisi.

Yn ogystal, mae’r Adduned yn cydnabod rôl cymunedau wrth gefnogi teuluoedd, a phwysigrwydd helpu oedolion i fodloni anghenion babanod. O ganlyniad, mae’r lansiad hwn yn nodi dechrau ymgyrch ehangach i wreiddio llais y baban mewn polisi ac ymarfer ledled Cymru.

Mae’r cam cyntaf hwn yn gwahodd pawb – o rieni a gofalwyr i ymarferwyr a llunwyr penderfyniadau – i ddatgan eu hymrwymiad i sicrhau bod babanod yn ganolog i benderfyniadau.

Cewch weld crynodeb gweledol o’r broses ddatblygu ac ymgynghori y tu ôl i’r Adduned yn y ffeithlun atodol.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i  Plant yng Nghymru | Llais y Baban

Pledge Cym.png