Arolwg Blynyddol Tlodi Plant a Theuluoedd 2022 Nawr yn fyw!

Child_Poverty_Survey_Report_2021_Welsh.pdf (childreninwales.org.uk)

Mae Plant yng Nghymru wedi bod yn cynnal Arolwg Blynyddol Tlodi Plant a Theuluoedd ers pum mlynedd, er mwyn ein helpu i ddeall materion cysylltiedig â thlodi a’i effaith ar blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru. Fel o’r blaen, rydyn ni wedi gweithio gyda Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru (ECPN) i lywio ein cwestiynau.

Roedd canfyddiadau arolygon y llynedd yn ddigysur ac yn annerbyniol, ond fe’u defnyddiwyd eisoes i ddiweddaru, llywio a newid polisi ac ymarfer. Mae angen i hynny barhau. Rydyn ni’n gwybod mai’r rhai sy’n byw mewn tlodi sydd wedi cael eu taro galetaf gan y pandemig, a bod y cynnydd diweddar mewn costau byw wedi gwaethygu hynny ymhellach.

Rydyn ni’n chwilio am eich profiadau a’ch barn, i’n helpu i ddarparu a rhannu rhagor o wybodaeth am effaith tlodi ar blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru.

Cymerwch 20 munud i gwblhau’r arolwg, os gwelwch yn dda.

Rydyn ni’n gwerthfawrogi eich barn a’ch profiadau, ac maen nhw’n eithriadol bwysig i ni.

Bydd y ddau arolwg yn cau ar 3 Mehefin 2022.

Rydyn ni’n chwilio am gymaint o ymgysylltiad â phosibl, a bydden ni’n gwerthfawrogi eich help i ledaenu’r arolygon i’ch cydweithwyr, eich rhwydweithiau a, lle bo modd, i’r plant a’r bobl ifanc eu hunain.

Byddwn ni’n cyhoeddi ac yn rhannu’r canfyddiadau’n eang ganol mis Medi. Ein nod yw bod y canfyddiadau’n helpu eto i lunio a llywio polisi ac ymarfer yng Nghymru.

Diolch am eich cefnogaeth.