Rydym ym Mhlant yng Nghymru wedi bod yn gweithio'n galed i wella'r ffordd rydyn ni'n cyfathrebu â'n haelodaeth yn ddiweddar.  Fe fyddech wedi sylwi ein bod ni wedi diweddaru ein brandio, ac rydym yn y broses o gwblhau'r wefan newydd hon hefyd.

Fel rhan o'r newidiadau hyn, rydym wedi ystyried adborth ein haelodaeth a hefyd gwella'ch mynediad i'ch buddion aelodaeth.

Rydym yn gyffrous iawn i gyhoeddi bod gennym wefan aelodaeth newydd sy'n ymroddedig i wella'ch profiad a'ch mynediad.
www.childreninwalesmembership.org.uk

Gallwch nawr hawlio'ch cyfrif a mewngofnodi.

Trwy fewngofnodi, gallwch nawr reoli pa e-byst rydych chi'n eu derbyn yn eich Mewnflwch ar unrhyw adeg, cewch fynediad i godau disgownt hyfforddi sy'n unigryw i aelodau, a gallwch gael mynediad i adnoddau gan gynnwys ôl-rifynnau o 'InfoFlash' Eurochild a'n cylchgrawn chwarterol.

Rydym hefyd yn ei gwneud hi'n haws i aelodau bwcio digwyddiadau unigryw trwy ein gwefan.  Cadwch lygad am fwy o newyddion am hyn yn fuan pan fyddwn yn cyhoeddi ein digwyddiad cyntaf!

Fel rhan o'n system newydd, gall pobl sy'n gweithio i aelod-sefydliad (sydd ag aelodaeth ddilys) gael mynediad i'r mwyafrif o fuddion trwy'r wefan.  Gall sefydliadau mawr gael hyd at 50 o aelodau cyswllt fel rhan o'r cynllun newydd!  Os yw'ch cydweithwyr yn tanysgrifio i'n rhestrau postio yna gallwn eu hychwanegu at eich aelodaeth fel cyswllt.

Sut i gael mynediad i'ch cyfrif

* Cliciwch 'Create account' (cornel dde uchaf)

* Llenwch y ffurflen fer gyda'ch enw a'ch cyfeiriad e-bost

* Dewiswch gyfrinair

* Gwiriwch eich cyfeiriad e-bost (a gwiriwch eich ffolder sothach, rhag ofn)

* Mewngofnodwch

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu broblemau gyda mewngofnodi, peidiwch ag oedi cyn e-bostio: louise.oneill@childreninwales.org.uk

Oeddech chi'n gwybod, os byddwch chi'n cyflwyno unigolyn neu sefydliad i'n cynllun aelodaeth, a maent yn mynd ati i ymuno, byddwch chi'n derbyn côd gostyngiad o 20% ar gyfer cwrs hyfforddi diwrnod llawn Plant yng Nghymru.

E-bostiwch louise.oneill@childreninwales.org.uk  gyda'ch atgyfeiriad.