Fel rhan o’r gefnogaeth i ysgolion a phlant yn ystod COVID-19, mae Plant yng Nghymru wedi rhyddhau canllaw bach i gefnogi’r canllawiau Pris Tlodi Disgyblion i Ysgolion yng Nghymru.

Mae’r canllaw bach yn berthnasol i’r sefyllfa bresennol ac yn ei hanfod yn atgoffa ysgolion sut gallan nhw barhau i helpu disgyblion o deuluoedd difreintiedig ac incwm isel yn ystod Covid -19, yn unol â’r prif ganllawiau pris tlodi disgyblion a ryddhawyd gan Lywodraeth Cymru. Gallwch gyrchu’r canllawiau bach yma.

Yn ystod cyfnod cau’r ysgolion ac yn wyneb y cyhoeddiad diweddar ynghylch ailagor ysgolion, bydd yr angen am y canllawiau’n fwy perthnasol fydd wrth i ganran uwch o blant syrthio i dlodi yn sgîl y pandemig. Rydyn ni’n annog ysgolion i ystyried y canllawiau bach a sut mae eu defnyddio yn awr ac yn y dyfodol.

Fel rhan o hyn, rydyn ni’n gofyn i ysgolion roi gwybodaeth i ni am eu ffyrdd arloesol o weithio er mwyn ymateb i’r sefyllfa bresennol i helpu disgyblion o deuluoedd difreintiedig ac incwm isel yn ystod y cyfnod hwn. Rydyn ni’n gwybod bod dulliau gwych ar waith, a bydden ni’n hoffi eu casglu.