Ymgynghoriad Aelodau - Cwblhewch yma

Mae Plant yng Nghymru yn casglu barn a phrofiadau aelodau er mwyn llywio ein hymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, Datblygu polisi ffonau symudol: drafft o ganllawiau ar gyfer ysgolion. Mae hyn yn cynnwys sut y gall ysgolion ddatblygu polisïau teg ac ymarferol sy'n cefnogi dysgu, lles a diogelwch plant, a pha gymorth sydd ei angen i roi'r polisïau hyn ar waith.

Nid oes angen i chi ateb pob un o'r chwe chwestiwn; dim ond y rhai lle mae gennych rywbeth i'w rannu â ni.

Gofynnwn i ymatebion gyrraedd erbyn dydd Mawrth 23 Tachwedd 2026. Gallwch gael mwy o wybodaeth am yr ymgynghoriad ar wefan Llywodraeth Cymru yma - Datblygu polisi ffonau symudol: drafft o ganllawiau ar gyfer ysgolion | LLYW.CYMRU. Os hoffech ymateb ar wahân, gallwch wneud hynny drwy'r un ddolen uchod.