Er mwyn amlinellu ffigurau, proses ac effaith rhaglen 'Sgwrs Fawr' Cymru Ifanc 24/25, mae tîm Cymru Ifanc wedi creu ffeithlun o'r enw:
Y Sgwrs Fawr – Dewch i ni ei Dadansoddi
Ar ôl casglu barn yn ein sesiynau 'Sgwrs Fawr' ac yn ein Symposiwm Gŵyl Cymru Ifanc, mae’r ffeithlun hwn yn ganlyniad o’n rhyngweithiadau â phobl ifanc ledled Cymru, gan ganolbwyntio ar y pynciau trafod canlynol:
- Teimlo’n Ddiogel Ar-lein ac mewn Perthynas
- Iechyd Meddwl a Lles
- Addysg a Hyfforddiant
- Trafnidiaeth
- Newid Hinsawdd
- Gofalwyr Ifanc
- Cyfiawnder Cymdeithasol
- Costau Byw
Yn dilyn y sesiynau hyn, cafodd gwirfoddolwyr Cymru Ifanc gyfle i ymgysylltu â Gweinidogion Llywodraeth Cymru. Un o brif ddibenion y ffeithlun hwn yw tynnu sylw gwirfoddolwyr Cymru Ifanc a'r rhai a gymerodd ran yn y Sgwrs Fawr at sut mae gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar eu hallbynnau ac wedi ymateb iddynt.
Gobeithiwn y bydd y ffeithlun hwn yn ddefnyddiol i olrhain sut mae lleisiau pobl ifanc yng Nghymru yn cael eu cymryd o ddifrif a'u hamlygu i benderfynwyr, er mwyn sicrhau y gall plant a phobl ifanc leisio eu barn i lunio polisi a gwneud penderfyniadau yn y dyfodol.