Dydd Llun 20 – Dydd Gwener 24ain Hydref 2025  

Bydd Cyswllt Rhieni Cymru yn ymuno â theuluoedd ledled y wlad i ddathlu Wythnos Genedlaethol Magu Plant 2025, a gynhelir o ddydd Llun 20fed i ddydd Gwener 24ain Hydref. 

Mae thema eleni, “Rhianta Llesol”, yn tynnu sylw at bwysigrwydd cefnogi rhieni i rianta’n llesol gan hefyd gydnabod pwysigrwydd hunanofal a'u lles eu hunain. 

Beth yw Wythnos Genedlaethol Magu Plant? 

Mae Wythnos Genedlaethol Magu Plant yn dathlu, yn cefnogi ac yn codi ymwybyddiaeth o'r rôl hanfodol y mae rhieni a gofalwyr yn ei chwarae wrth siapio bywydau plant.  

Drwy gydol yr wythnos, bydd Cyswllt Rhieni Cymru yn: 

  • Amlygu'r heriau sy'n wynebu rhieni 

  • Mwyhau lleisiau rhieni 

  • Hyrwyddo mynediad at gefnogaeth, cyngor ac adnoddau i deuluoedd. 

Mae'r wythnos hon yn gyfle i galonogi rhieni, hybu lles plant, a phwysleisio pwysigrwydd atal, ymyrraeth gynnar a chefnogaeth i deuluoedd. 

Cyswllt Rhieni Cymru 

Dan arweiniad Plant yng Nghymru a chyllid gan Lywodraeth Cymru, mae Cyswllt Rhieni Cymru yn rhoi llais i rieni a gofalwyr ledled Cymru wrth lunio'r polisïau a'r gwasanaethau sy'n effeithio ar deuluoedd. 

Mae rhieni a gofalwyr wedi dweud wrthym eu bod nhw eisiau: 

  • Teimlo bod eu profiadau bywyd yn cael eu gwerthfawrogi 

  • Bod yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau yn gynnar, nid fel ymarfer ticio blychau 

  • Derbyn adborth ar sut mae eu mewnbwn yn cael ei ddefnyddio 

Drwy wrando ar rieni a gofalwyr, gallwn helpu i greu gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n cryfhau teuluoedd ac yn sicrhau bod hawliau plant yn cael eu parchu a'u cyflawni.  

Adnoddau i rieni a gofalwyr: 

Dewch o hyd i awgrymiadau a chymorth ymarferol i amddiffyn a gwella eich lles meddyliol yn https://hapus.cymru/lles-meddyliol/ffyrdd-o-wella-lles/  

Os ydych chi'n chwilio am gyngor ac arweiniad ar gadw'ch plant yn ddiogel ar-lein a rheoli defnydd sgrin, ewch i https://www.llyw.cymru/magu-plant-rhowch-amser-iddo/plant-8-12-oed/we-ar-cyfryngau-cymdeithasol am gymorth ac adnoddau dibynadwy.  

Darganfyddwch ble i gael mynediad at gymorth iechyd meddwl yn agos atoch chi yn https://www.mind.org.uk/about-us/local-minds/  

Dysgwch fwy am hawliau plant a sut y gallwch eu cefnogi yn https://www.childreninwales.org.uk/cy/gweithwyr_profesiynol/ein_gwaith/Cymorth-i-Deuluoedd-a-Rhianta/Cyswllt-Rhieni-Cymru/Hwb-Cyswllt-Rhieni-Cymru/Rhieni-a-hawliau-plant/

Ewch i https://www.childreninwales.org.uk/cy/gweithwyr_profesiynol/ein_gwaith/Cymorth-i-Deuluoedd-a-Rhianta/Cyswllt-Rhieni-Cymru/Hwb-Cyswllt-Rhieni-Cymru/Rhieni-a-hawliau-plant/ am wybodaeth ac adnoddau dibynadwy i'ch helpu i reoli cyllid eich teulu yn hyderus.

Ewch i https://www.llyw.cymru/magu-plant-rhowch-amser-iddo/cyllideb-y-teulu am wybodaeth ac adnoddau dibynadwy i'ch helpu i reoli cyllid eich teulu yn hyderus.