Ewch i'n tudalennau Plant a Phobl Ifanc i ddysgu mwy am Hawliau Plant, Cymru Ifanc a phrosiectau eraill y gall Plant a Phobl Ifanc gymryd rhan ynddynt.
Darganfyddwch fwy
Cyfarfu’r cyngor polisi ddydd Mercher 17 Medi 2025, gyda ffocws ar iechyd meddwl plant. Roedd Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, yn bresennol yn y cyfarfod i drafod y strategaeth iechyd meddwl i Gymru. Cafwyd cyflwyniad ar ran y rhwydwaith Iechyd Meddwl Babanod, Plant a Phobl Ifanc gan Simon Jones, Mind Cymru, ac Amy Bainton, Barnardos. Roedd y cyflwyniad yn canolbwyntio ar y strategaeth iechyd meddwl a’r blaenoriaethau allweddol o ran iechyd meddwl plant ar gyfer Llywodraeth bresennol Cymru a’r llywodraeth nesaf. I weld y cyflwyniad, dilynwch y ddolen isod.
Strategaeth Iechyd Meddwl - Cyflwyniad Cyngor Polisi