Galwad am Dystiolaeth

Cyflwr Hawliau Plant yng Nghymru

Mae’r Cenhedloedd Unedig yn cynnal archwiliad o’r cynnydd a wnaed gan lywodraethau i roi Confensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ar waith.

Ym mis Rhagfyr 2020, fe wnaethon ni gyhoeddi ein hadroddiad Cyflwr Hawliau Plant yng Nghymru gyda mwy na 90 o gyfraniadau gan gymdeithas sifil yng Nghymru i lywio rhestr blaenoriaethau’r Cenhedloedd Unedig, a gyhoeddwyd ganddyn nhw ym mis Chwefror 2021. Cyflwynwyd ymateb ar y cyd gan y llywodraeth i’r blaenoriaethau hyn i’r CU ym mis Mehefin 2022

Mae Plant yng Nghymru, ynghyd â’n partneriaid yng Ngrŵp Monitro CCUHP Cymru, yn awr yn adnewyddu ein hadroddiad, a byddwn ni’n ei gyflwyno i’r CU yn ddiweddarach eleni. Rydyn ni’n awyddus i grynhoi beth sydd wedi newid yn eich meysydd gwaith ers i’n hadroddiad gael ei gyhoeddi.

Rydyn ni eisiau clywed oddi wrthych chi.

Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i alw’r llywodraeth i gyfrif ac i nodi meysydd ar gyfer newid.

Fe wnaethoch chi ein helpu i nodi’r materion canlynol i’r CU trwy ein hadroddiad ym mis Rhagfyr 2020. 

 Trais yn erbyn Plant

 Trais, camdriniaeth ac   esgeuluso

 Camfanteisio a cham-   drin rhywiol

 Arferion niweidiol   (FGM, FM etc.)

 Cam-drin Domestig

 Bwlio

 Amgylchedd y Teulu   a Gofal Amgen

 Gofal plant

 Plant â phrofiad o ofal

 Plant carcharorion

 Gofalwyr Ifanc

 Anabledd, Iechyd a   Lles Sylfaenol

 Plant anabl   Anghydraddoldebau   iechyd Iechyd Meddwl

 Iechyd Amgylcheddol

 Tlodi Plant

 Addysg, Hamdden a   Gweithgareddau   Diwylliannol

 Addysg

 Chwarae a Hamdden   Gweithgareddau   diwylliannol

 Mesurau Amddiffyn   Arbennig

 Ceiswyr Lloches,   Ffoaduriaid a Phlant   sy’n Mudo

 Gweinyddu   cyfiawnder ieuenctid

 Egwyddorion   Cyffredinol

 Peidio â   Chamwahaniaethu   Troseddau Hil, Atgasedd   Teithwyr sy’n Sipsiwn

 Parch at Farn y Plentyn /   Cyfranogiad

 Mesurau Gweithredu   Cyffredinol

 Deddfwriaeth a   Strategaeth Asesiad   Effaith ar Hawliau Plant

 Cydlyniad

 Cyllidebu

 Monitro annibynnol

 Materion Trosfwaol   (gan gynnwys)

 Effaith COVID 19

 Effaith Brexit

 Ymgorffori   Fframweithiau Hawliau   Dynol

 Y Ddeddf Hawliau   Dynol

 

Sut mae cyfrannu : Canllawiau Cyflwyno.

Rydyn ni’n croesawu ymatebion a thystiolaeth ar gynifer o’r pynciau ag rydych chi’n dymuno ymateb iddyn nhw. Dydyn ni ddim yn disgwyl i chi roi sylw i bob pwnc, dim ond y meysydd hynny lle mae gennych chi wybodaeth a thystiolaeth rydych chi’n dymuno eu rhannu

Rydyn ni’n arbennig o awyddus i ganfod

  • Beth yw’r prif faterion y dylai Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus fod yn rhoi blaenoriaeth iddyn nhw a pham?
  • Beth sydd wedi newid ers ein hadroddiad ym mis Rhagfyr 2020? Oes unrhyw beth wedi gwella neu waethygu i blant yng Nghymru? Pa gynnydd sydd wedi cael ei wneud? Pa dueddiadau rydych chi’n eu gweld?
  • Pa wybodaeth neu dystiolaeth sydd gennych chi i gefnogi hyn?
  • Pa bolisi neu newidiadau i’r gyfraith sy’n angenrheidiol?
  • Pa argymhellion rydych chi’n eu hawgrymu dylai’r CU eu gwneud i lywodraeth(au) i wella’r sefyllfa i blant yng Nghymru?

Gofynnir i chi fod yn gryno a cheisio cadw eich ymateb i ryw 400 o eiriau fesul pwnc. Cofiwch gynnwys cyfeiriadau at unrhyw astudiaethau (a gyhoeddwyd neu sydd heb eu cyhoeddi), ystadegau ac adroddiadau sydd wedi cael eu rhyddhau ers 2020 i gefnogi eich tystiolaeth. Cofiwch gynnwys unrhyw dystiolaeth rydych wedi’i chasglu gan blant neu bobl ifanc neu unrhyw astudiaethau achos rydych chi eisiau eu cynnwys

Gofynnir i chi fod yn glir ynghylch a ydych chi’n darparu ymateb ar ran eich sefydliad, gan rwydwaith neu fel unigolyn (e.e. academydd).

Gellir rhannu eich mewnbwn gydag arweinwyr thematig yn ein Grŵp Llywio Prosiectau at ddiben gwirio cywirdeb

Cydnabyddiaeth – rydyn ni am roi cydnabyddiaeth lawn i bob sefydliad sydd wedi cyfrannu tystiolaeth i’w bwydo i’r adroddiad. Cyn ei gyhoeddi, byddwn ni’n cysylltu â sefydliadau i gefnogi’r Adroddiad. Does dim rhwymedigaeth yn hyn o beth, ond bydden ni’n hoffi cefnogi a dangos gwerthfawrogiad i sefydliadau am eu hamser a’u hymwneud â’r gwaith yma.

Anfonwch eich sylwadau i – CRCWales@childreninwales.org.uk

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Sean O’Neill sean.oneill@childreninwales.org.uk

Dyddiad Cau – dydd Gwener 7 Hydref 2022.