Grymuso lleisiau rhieni a gofalwyr

Grymuso lleisiau rhieni a gofalwyr - Mae rhieni eisiau cael llais a chael eu clywed

Yn y weminar hon clywodd cynrychiolwyr am y prosiect 'Rhieni'n Cysylltu Cymru', a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd gan Plant yng Nghymru. Mae'r prosiect yn gweithio tuag at ddatblygu llwyfan ledled Cymru ar gyfer casglu barn rhieni, a fyddai'n arwain at gyfranogiad mwy ystyrlon ar ffurf cydgynhyrchu. Roedd y weminar hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd cyfranogiad a grymuso rhieni, ac yn arddangos peth o'r gwaith cyffrous sydd eisoes yn digwydd ledled Cymru; gan gynnwys straeon bywyd go iawn am y daith y mae rhieni wedi'i chymryd i 'leisio'u barn' a chymryd mwy o ran yn hyrwyddo hawliau eu plant.
 

"Yn ddiddorol iawn. Rwy'n weddol newydd i'r rôl o ymgysylltu ac yn ei chael hi'n anodd ymgysylltu â rhieni yn fy nghymuned, rhoddodd y weminar wybodaeth ddefnyddiol i mi ei datblygu"
 
"Roedd tystebau'r rhieni yn ysbrydoledig iawn ac yn hyfryd gweld sut mae'r grwpiau hyn yn gweithio i rieni ledled ardaloedd yng Nghymru"