Mae gan bob plentyn hawl i leisio eu barn ac i fobl wrando arnynt
(Erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn - CCUHP)
Sefydlwyd ers meitin y dylai pob plentyn gael gwrandawiad, ond gall gwneud hynny’n ymarferol fod yn heriol, yn enwedig yn y Blynyddoedd Cynnar.
Mae poster Hawliau yn y Blynyddoedd Cynnar yn rhoi trosolwg o’r elfennau allweddol sydd eu hangen i ddarparu amgylchedd cadarnhaol sy’n seiliedig ar hawliau, ac mae gwrando yn allweddol yn ogystal â pherthnasoedd cadarnhaol ac amgylchedd diogel ac anogol.
Mae gwrando’n golygu cael hyd i ffyrdd o gyfathrebu a chanfod cyfleoedd, technegau a dulliau i blant fynegi eu barn.
Ariannodd Llywodraeth Cymru brosiect ar raddfa fach i ganiatáu i Plant yng Nghymru ymchwilio a chael hyd i ffyrdd o wrando ar fabanod a phlant ifanc iawn, a threialu rhai dulliau gweithredu gyda’r canlynol:
- Babanod (0-1 oed)
- Plant Bach (1-2 oed)
- Plant cyn ysgol (3-4 oed)
Mae’r fideos a’r adnoddau hyfforddi isod yn rhoi trosolwg o’r prosiect ac yn fan cychwyn ar gyfer cefnogi’r broses o glywed llais babanod a phlant ifanc iawn.
Adnoddau Fideos
Rydyn ni hefyd wedi cynhyrchu ystod ehangach o adnoddau, yn cwmpasu rhagor o erthyglau CCUHP a sut gallwn ni gefnogi hawliau yn y tri chategori oed penodol.
Yn unol â’r cwricwlwm newydd nas cynhelir, mae’r adnoddau canlynol yn creu cysylltiadau penodol ac yn cefnogi dealltwriaeth ymarferwyr.
Cewch ragor o wybodaeth ac adnoddau ar y pwnc hwn, ynghyd â phosteri gwych fydd yn ennyn trafodaeth, yn: www.voicebirthtoseven.co.uk
Edrychwch Pwy sy’n Siarad: Canfod Lleisiau Plant o’u Geni hyd at Saith Oed
Maen nhw’n cynnwys: Llais; Democratiaeth; Diwylliant; Gwrando â Phwrpas; Gofod a Lle; Sgiliau ac Offer; Galluogi a Meithrin Capasiti.
“clywed lleisiau o’u geni”
“perthnasoedd yw’r elfen allweddol”
“Mae lleisiau’n dod ynghyd mewn gwahanol ffyrdd”
“Cyfle i newid cwrs bywyd plentyn”
Cefnogi Hawliau Digidol yn y Blynyddoedd Cynnar
Yn y byd digidol sy’n tyfu’n barhaus, mae angen i ni sicrhau bod hawliau pob plentyn, hyd yn oed yr ifancaf, yn cael eu parchu, eu diogelu a’u cyflawni yn yr amgylchedd digidol.
Os hoffech chi wybod mwy am y prosiect hwn neu Hawliau yn y Blynyddoedd Cynnar, cysylltwch ag Anna Westall, Uwch Swyddog Polisi anna.westall@childreninwales.org.uk
Ariannir yr adnoddau hyn gan Lywodraeth Cymru. Barn yr awdur a fynegir yn yr adnoddau hyn, ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli barn yr ariannwr