Amdanom Ni

Mae Plant yng Nghymru yn hwyluso ac yn ymgyrchu dros weithredu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn llawn yng Nghymru. Rydym yn gwrando ar leisiau plant a phobl ifanc, yn eu cydlynu a’u mwyhau.

A ninnau’n gorff ambarél cenedlaethol ar gyfer pobl a sefydliadau sy’n gofalu am blant a phobl ifanc neu’n ymboeni amdanynt, rydym yn ganolbwynt unigryw i Gymru, gan adeiladu rhwydweithiau, capasiti a llwyfannau ar gyfer arbenigedd cyfunol ein haelodau. Rydym yn cefnogi ac yn annog y llywodraeth a sefydliadau sy’n wynebu plant i ddarparu polisïau, arferion a gwasanaethau teg sy’n adlewyrchu hawliau, anghenion a dyheadau babanod, plant a phobl ifanc.


Ein Gweledigaeth

Adeiladu Cymru lle mae holl hawliau pob fabanod, plentyn a pherson ifanc yn cael eu cyflawni.

Darganfod mwy

Untitled design (7).png

Ein Gwerthoedd

Mae ein gwerthoedd, a ddatblygwyd ar y cyd â chydweithwyr a phobl ifanc, yn llywio ein hymddygiad ac yn rhoi fframwaith i ni ar gyfer gwneud penderfyniadau.

Gweld yma

Umbrella ExerciseNew.jpg

Cwrdd â’n tîm

Dysgu mwy am dîm a meysydd gwaith unigol Plant yng Nghymru.

Darganfod mwy

meet-the-team.jpg

Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

Rheolir Plant yng Nghymru gan ein Bwrdd o Ymddiriedolwyr, yn unol â chanllawiau’r Comisiwn Elusennau. Ein Hymddiriedolwyr sy’n goruchwylio cyllid, trefn lywodraethu a chydymffurfiaeth Plant yng Nghymru, ac yn gosod a chynnal ein gweledigaeth a’n gwerthoedd

Darganfod mwy

trustee-board.jpg

Adroddiadau Blynyddol

Mae Adroddiadau Blynyddol Plant yng Nghymru yn rhoi trosolwg o’r gwaith rydym ni wedi ei wneud yn ystod unrhyw flwyddyn ariannol.

Gweld adroddiadau

Untitled design (1).png

Ein hanes

Ers 1992, mae Plant yng Nghymru wedi bod yn sefydliad trosfwaol cenedlaethol ar gyfer unigolion a sefydliadau gwirfoddol, statudol a phroffesiynol sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghymru. 

Archwilio mwy

our-history.jpg