Datganiad Gweledigaeth

Datganiad Gweledigaeth

Gweledigaeth:

Adeiladu Cymru lle mae holl hawliau pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu cyflawni.

Ein Cenhadaeth:

Plant yng Nghymru yw’r sefydliad aelodaeth cynrychioliadol cenedlaethol ar gyfer unigolion a sefydliadau o bob sector sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru. Daw ein haelodaeth o’r sectorau cyhoeddus, elusennol/di-elw ac annibynnol yng Nghymru. Bydd ein gwaith yn cael ei danategu gan ddull cydweithredol, sy'n hwyluso cyfleoedd i'n haelodau, plant a phobl ifanc.

Byddwn yn gweithio tuag at ein gweledigaeth mewn cydweithrediad â’n haelodau drwy:

• Ymgyrchu dros fabwysiadu a gweithredu llawn Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ar bob lefel o gymdeithas Cymru.

• Herio anghydraddoldebau a hyrwyddo tegwch i holl blant a phobl ifanc Cymru.

• Dod â llais cyfunol at ei gilydd ar gyfer newid trawsnewidiol ar lefel polisi yng Nghymru.

• Hyrwyddo a chefnogi cyfranogiad plant a phobl ifanc o fewn strwythurau penderfyniadau ar bob lefel o lywodraeth yng Nghymru.

• Darparu llwyfan ar gyfer rhannu arfer arloesol ledled Cymru.

• Eirioli dros y sector(au) plant ar feysydd blaenoriaeth.

• Darparu cyfleoedd dysgu a datblygu ar gyfer y gweithlu proffesiynol plant traws-sector.

• Ymgymryd ag ymchwil, a’i lledaenu ar draws ein haelodaeth.