Bwrdd o Ymddiriedolwyr

Rheolir Plant yng Nghymru gan ein Bwrdd o Ymddiriedolwyr, yn unol â chanllawiau’r Comisiwn Elusennau. Ein Hymddiriedolwyr sy’n goruchwylio cyllid, trefn lywodraethu a chydymffurfiaeth Plant yng Nghymru, ac yn gosod a chynnal ein gweledigaeth a’n gwerthoedd
Bwrdd o Ymddiriedolwyr

Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn cynnwys hyd at 12 aelod.  Mae tri o’r rhain yn Ymddiriedolwyr penodedig (ein Cadeirydd a’n Trysorydd, er enghraifft), ac mae’r naw Ymddiriedolwr arall yn cael eu hethol yn ein Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol. Gall Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ddewis penodi Ymddiriedolwyr Cyfetholedig am gyfnod o flwyddyn i sicrhau dilyniant neu i lenwi bylchau sgiliau neu wybodaeth.

Gwirfoddolwyr yw ein Hymddiriedolwyr ac maen nhw’n cyflawni rôl werthfawr iawn yn ein sefydliad.

Helen Mary Jones

Cadeirydd

Helen Mary Jones


Mae Helen wedi dangos ei hymroddiad i wella bywydau plant Cymru drwy gydol ei gyrfa. O 1982-86, bu’n addysgu disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, ac yn ddiweddarach ymgymerodd â rolau mewn gwaith ieuenctid a chymunedol. Ym 1999, ymunodd â’r Cynulliad Cenedlaethol, a rhwng 2007-2011, Helen oedd cadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc. Bu’n arwain y gwaith o graffu ar y broses sy’n arwain at Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc 2011. Rhwng 2011-2017, Helen oedd Prif Weithredwr Youth Cymru, a llwyddodd i lobïo Llywodraeth Cymru i adfer cyllid craidd i sefydliadau gwirfoddol gwaith ieuenctid cenedlaethol. Cyflwynodd ar hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru ym mhrifysgolion Houston ac Austin yn 2014, a Harvard yn 2016. Rhwng 2011 a 2013, penodwyd Helen i Fwrdd Ymyrraeth Gweinidogol Llywodraeth Cymru gyda’r dasg o herio darpariaeth diogelu, ac fe’i penodwyd yn ddiweddarach. penodi i weithgor sy'n adolygu'r arolygiad o ofal ac addysg plentyndod cynnar. Roedd Helen yn aelod o Fwrdd Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc (2012-2017). Rhwng 2018 – 2021, roedd Helen yn Aelod o’r Senedd, ac yn Gyd-Gadeirydd y Grwpiau Trawsbleidiol ar Blant, a Phlant a Phobl Ifanc sy’n Derbyn Gofal.

Jackie Murphy

Is-Gadeirydd

Jackie Murphy

Mae Jackie Murphy yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig sydd â gradd Meistr mewn Gweinyddiaeth Fusnes. Bu’n Brif Swyddog Gweithredol Tros Gynnal, sef TGP Cymru bellach, ers 2013. Mae Jackie yn Gadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol CAFCASS Cymru a bu’n aelod o Grŵp Gorchwyl a Gorffen Eiriolaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru, yn Gadeirydd Swyddogion ac Eiriolwyr Hawliau Plant (CROA) ac yn Aelod Anweithredol o Fwrdd Iechyd Lleol Rhondda Cynon Taf.

Suman Bhogal

Trysorydd

Suman Bhogal

Mae Suman Bhogal yn gyfrifydd siartredig llawn ac yn aelod o CIMA (Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli). Bu’n gweithio i Barnardo’s fel Rheolwr Busnes Cyllid ers 2015.

Bu Suman yn byw yn Sydney am chwe blynedd ac yn gweithio i Rwydwaith Teledu fel Rheolwr Cyllid Masnachol. Cyn hynny, bu’n gweithio yn y diwydiant hysbysebu fel Cyfrifydd Rheoli. Y tu allan i’r gwaith, mae Suman yn fam brysur i dri o blant ifanc.

Sarah Crawley

Sarah Crawley

Sarah yw Cyfarwyddwr Barnardo’s Cymru. Derbyniodd ei haddysg ym Mhrifysgol Loughborough a Phrifysgol Coventry. Mae ganddi gefndir helaeth ym maes gofal cymdeithasol plant ac oedolion, gwasanaethau ymyrraeth gynnar i deuluoedd a phobl ifanc, adfywio cymunedol, tai ac ailsefydlu troseddwyr, a bu’n uwch-swyddog mewn nifer o awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr. Mae ganddi ddiddordeb byw mewn gwella gwasanaethau i holl blant, pobl ifanc a theuluoedd Cymru trwy bartneriaethau amlasiantaeth.

Deborah Jones

Deborah Jones

Mae Deborah yn Brif Swyddog Gweithredol Lleisiau o Ofal Cymru (VFCC) ac mae ganddi brofiad helaeth fel ymddiriedolwr yn y trydydd sector.

Yn ogystal â Plant yng Nghymru, mae Deborah hefyd yn un o ymddiriedolwyr 5 gwlad 1 llais (cadeirydd) ac yn cyflawni rôl Ysgrifenyddiaeth i Grŵp Hollbleidiol Llywodraeth Cymru ar Blant a Phobl Ifanc. Bu Deborah yn astudio ar gyfer MBA a Diploma mewn Cwnsela ac mae ganddi hanes hir o weithio gyda’r gymuned sydd â phrofiad o ofal.

Deborah oedd cynrychiolydd cyfreithiol VFCC yn “Ymchwiliad Gogledd Cymru” a bu’n arwain y gwaith o bwyso am newid go iawn o ran arddel hawliau’r gymuned ofal yng Nghymru, yn unol â CCUHP.

Bethan Webber

Bethan Webber

Bethan yw Prif Weithredwr Cwmpas, asiantaeth ddatblygu sy’n gweithio dros newid economaidd a chymdeithasol cadarnhaol. Yn gyn-Brif Weithredwr yr elusen cymorth i deuluoedd, Home-Start Cymru, mae Bethan yn credu mai’r blynyddoedd cynharaf yw sylfaen canlyniadau gydol oes cadarnhaol. Cyn hynny, bu'n gweithio mewn sawl rôl polisi a chraffu ar lefel y DU a lefel ddatganoledig. Mae Bethan yn Aelod o Banel Addasrwydd i Ymarfer Gofal Cymdeithasol, yn aelod o Grŵp Cynghori Cymru ar gyfer Sefydliad Banc Lloyds ac yn llywodraethwr ysgol.

Mae'n angerddol dros gydraddoldeb cymdeithasol a'r gymuned, yn ogystal â phwysigrwydd gweithredu nawr ar gyfer dyfodol cadarnhaol. Yn gyn-Gadeirydd Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru a Chlerc i Bwyllgor Cyfle Cyfartal y Senedd, ac yn aelod presennol o Fforwm Cydraddoldeb Rhywedd Llywodraeth Cymru, mae Bethan yn eiriolwr cryf dros gydraddoldeb rhywedd a chreu’r amodau i fenywod a merched ffynnu.

Jenny Williams

Jenny Williams

Ers 2014 mae Jenny wedi bod yn Gyfarwyddwr Strategol Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ar ôl gweithio’n flaenorol fel Pennaeth Gwasanaethau Plant ac yna’n Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. Dechreuodd Jenny, sy’n Weithiwr Cymdeithasol cymwysedig, ei gyrfa mewn amrywiaeth o swyddi, gan arbenigo yn bennaf mewn Mabwysiadu a Phlant sy’n Derbyn Gofal.

Ar lefel genedlaethol, mae Jenny wedi cadeirio Grŵp Polisi Diogelu cenedlaethol Cymdeithas Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSSC), wedi bod yn aelod o Grŵp Cydlynu Strategol Ymgyrch Pallial, hi oedd Llywydd Cymdeithas y Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2018/19 a hi yw cadeirydd presennol Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru.

Liam Maguire

Liam Maguire

Graddiodd Liam gyda gradd yn y Gyfraith o Abertawe, cafodd ei gomisiynu o’r Academi Filwrol Frenhinol yn Sandhurst, a daeth yn Gapten Milwyr Troed yng Nghatrawd y Cymru Brenhinol. Ar ôl arwain ei Blatŵn yn Affganistan, gadawodd y fyddin i reoli cartrefi plant am gyfnod o ryw 6 blynedd, gan gynnwys Hillside, sef yr unig ganolfan ddiogel i blant yng Nghymru.
Ers hynny mae Liam wedi bod yn Bennaeth Gweithrediadau ac yn Ymgynghorydd ar Reoli Newid ar gyfer yr elusen Home Start Cymru, ac yn helpu i gefnogi teuluoedd ledled Cymru i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i’w plant. Ar hyn o bryd mae Liam yn gweithio fel Hyfforddwr Rheoli Arweinyddiaeth gyda Chymdeithas Tai o’r enw Valleys to Coast sy’n helpu i ddarparu cartrefi o safon i deuluoedd a phlant. Mae Liam hefyd yn ymddiriedolwr yn Home Start Cymru a Spectacle Theatre.
Mae Liam yn ymroddedig i sicrhau effaith gadarnhaol mor eang â phosib ar gynifer o blant â phosib, ac mae’n credu na fydd dim yn dod â mwy o fudd i gymdeithas na’u helpu i gyflawni hyd eithaf eu potensial.
Mae ei ddiddordebau yn cynnwys seicoleg, hawliau plant, diogelu, addysg, datblygu, ac unrhyw ddeddfwriaeth a rheoliadau perthnasol. Mae ganddo deimladau angerddol hefyd ynghylch rheoli arweinyddiaeth, diwylliant, strategaeth, gwasanaeth cyhoeddus, y trydydd sector a gwleidyddiaeth yn gyffredinol.

Athro Euan Hails

Athro Euan Hails

Mae'r Athro Euan Hails yn Gyfarwyddwr Llywodraethu Clinigol a Therapiwtig Adferiad, mae'n Nyrs Ymgynghorol CAMHS a DECLO ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, yn Athro Gwadd Prifysgol De Cymru ac yn Athro Cyswllt Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe.

Mae wedi treulio'i yrfa yn helpu'r rheini mewn angen, a chwaraeodd rhan flaenllaw yn natblygiad gwasanaethau Seicosis Ymyrryd yn Gynnar a gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru. Gwobrwywyd ef ag MBE am y gwaith hwn.

Bu'r Athro Hails yn rhan o Hafal fel Ymddiriedolwr a Dirprwy Gadeirydd cyn dod yn Gyfarwyddwr Adferiad lle mae wedi helpu i ddatblygu llywodraethiant, ac wedi siapio a nodi gwasanaethau clinigol, therapiwtig a seicolegol. Mae wedi cefnogi'r Prif Weithredwr ac wedi cynrychioli Adferiad mewn digwyddiadau a melinau trafod ar lefel llywodraethol, lleol a chenedlaethol. Mae wedi hyfforddi gweithwyr y GIG, staff ac aelodau o Adferiad ledled Cymru a'r DU mewn ymyriadau seicogymdeithasol a therapi seicolegol sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae Euan yn Ysgolhaig Florence Nightingale, yn eistedd ar Bwyllgor Polisi Plant yng Nghymru, yn Gymrawd a Chadeirydd y Cyngor Seicotherapyddion Integreiddiol Cenedlaethol, ac yn Gymrawd Rhwydwaith Cwnsela mewn Carchardai a Chomisiwn Bevan. Daeth yn ail yng nghystadleuaeth Nyrs Iechyd Meddwl y Nursing Times yn 2020. Mae'n seicotherapydd a goruchwyliwr achrededig.

Katie Simmons

Katie Simmons

Mae Katie Simmons yn Ymarferydd Cyfranogiad Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid yn Hosbis Plant Tŷ Hafan yn Sili. Mae Tŷ Hafan yn cefnogi amrywiaeth o bobl ifanc, o blentyn a gyfeiriwyd sy'n mynychu'r hosbis, brawd/chwaer i blentyn a gyfeiriwyd neu frawd/chwaer sy'n galaru. Mae oedran y plant yn amrywio o enedigaeth i 19 oed. Mae rôl Katie yn cynnwys gwrando ar lais pobl ifanc a'u helpu i weithredu ar faterion sydd o bwys iddyn nhw. Mae hi'n darparu man diogel iddyn nhw siarad am faterion pwysig, yn cynnal dadleuon, sefydlu digwyddiadau codi ymwybyddiaeth ac yn rhan weithredol o'r gymuned leol.

Meddai Katie: ‘Rydw i wrth fy modd yn cefnogi plant i wneud iddyn nhw deimlo wedi'u grymuso a bod rhywun yn gwrando arnyn nhw. Mae sicrhau eu bod nhw'n ymwybodol o'u hawliau a'u helpu i fynd i'r afael â materion yn bwerus iawn. Fel mam, siaradwr Cymraeg rhugl ac athrawes ysgol gynradd brofiadol ers dros 20 mlynedd, rydw i wir yn gobeithio y gallaf ddod a'm gwybodaeth a'm hangerdd i Fwrdd Ymddiriedolwyr Plant yng Nghymru.’

Helal Uddin

Helal Uddin

Mae Helal yn teimlo'n ffodus bod ganddo brofiad mewn gwahanol sectorau. Mae ganddo brofiad o weithio mewn diwydiannau fel arlwyo / mecaneg cerbydau / diogelwch / siop groser a chigydd / canolfan alwadau / gwerthiannau o ddrws i ddrws / cyfiawnder ieuenctid / yr Adran Gwaith a Phensiynau ac ati.

Meddai: ‘Rwy'n ffodus i fod yn rhan o dîm a sefydlodd Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST Wales) yn 2005, ac rwyf bellach yn gyd-gyfarwyddwr yn y sefydliad.

Rwy'n angerddol dros greu Cymru well a byd gwell. Rwy'n mwynhau bob math o her a'r buddiannau a ddaw yn sgil yr her honno. Rwy'n lwcus i fod yn y rôl hon yn gwasanaethu cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl Cymru, ac yn chwarae fy rhan i sicrhau cymdeithas well i bawb. Rwyf wrth fy modd yn gweithio tuag at greu Cymru well. Rwy'n caru ein gwahaniaethau o ran amrywiaeth / gwybodaeth / profiad / traddodiad / diwylliant / bwyd / iaith / cod gwisg ac ati, sy'n ategu ei gilydd a chymdeithas.

Rwy'n credu'n gryf nad yw un bod dynol yn well na'r llall, ac eithrio drwy dduwioldeb, gweithredoedd da, caredigrwydd, bob math o weithgarwch elusennol y mae'n bosibl i rywun ei gyflawni, dadlau dros yr hyn sy'n iawn, a brwydro yn erbyn anghyfiawnder, anghydraddoldeb a thlodi.’

Ymddiriedolwyr Cyfetholedig

Rôl Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

Bwrdd yr Ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am drefn lywodraethu gyffredinol a chyfeiriad strategol Plant yng Nghymru (CIW)

Darganfod mwy

board-members.jpg