Amdanom Ni

Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ac eraill yng Nghymru i sicrhau lle blaenllaw i hawliau plant mewn polisïau a phenderfyniadau. I wneud hyn, rydyn ni’n canolbwyntio ar sicrhau bod llais gan blant a phobl ifanc yng Nghymru, rydyn ni’n brwydro dros wasanaethau teg a chynaliadwy, yn eiriol dros newid polisïau yng Nghymru ac yn cysylltu ac yn cynrychioli’r gwaith sy’n cael ei wneud gan ein haelodau.
Amdanom Ni

Plant yng Nghymru yw’r sefydliad trosfwaol cenedlaethol ar gyfer sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghymru.  Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ac eraill yng Nghymru i sicrhau lle blaenllaw i hawliau plant mewn polisïau a phenderfyniadau.  I wneud hyn, rydyn ni’n canolbwyntio ar sicrhau bod llais gan blant a phobl ifanc yng Nghymru, rydyn ni’n brwydro dros wasanaethau teg a chynaliadwy, yn eiriol dros newid polisïau yng Nghymru ac yn cysylltu ac yn cynrychioli’r gwaith sy’n cael ei wneud gan ein haelodau.

Mae ein haelodau’n cynnwys unigolion a sefydliadau o’r sectorau gwirfoddol, statudol a phroffesiynol. Rydyn ni hefyd yn gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc ar nifer o brosiectau ac yn ddiweddar rydyn ni wedi cychwyn aelodaeth benodol ar gyfer ein cynulleidfa iau.

our-vision.jpg

Ein Gweledigaeth

Adeiladu Cymru lle mae holl hawliau pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu cyflawni.

Darganfod mwy

meet-the-team.jpg

Cwrdd â’n tîm

Dysgu mwy am dîm a meysydd gwaith unigol Plant yng Nghymru.

Darganfod mwy

trustee-board.jpg

Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

Rheolir Plant yng Nghymru gan ein Bwrdd o Ymddiriedolwyr, yn unol â chanllawiau’r Comisiwn Elusennau. Ein Hymddiriedolwyr sy’n goruchwylio cyllid, trefn lywodraethu a chydymffurfiaeth Plant yng Nghymru, ac yn gosod a chynnal ein gweledigaeth a’n gwerthoedd

 

Darganfod mwy

Cyfleusterau cynadledda a chyfarfodydd

Mae gan Plant yng Nghymru ystafell gynadledda sydd ar gael i’w llogi yn ein Prif Swyddfa mewn lleoliad cyfleus yng nghanol Caerdydd.

Rhagor o wybodaeth

conference-and-meeting-facilities.jpg

Adroddiadau Blynyddol

Mae Adroddiadau Blynyddol Plant yng Nghymru yn rhoi trosolwg o’r gwaith rydym ni wedi ei wneud yn ystod unrhyw flwyddyn ariannol.

Gweld adroddiadau

annual-reports.jpg

Ein hanes

Ers 1992, mae Plant yng Nghymru wedi bod yn sefydliad trosfwaol cenedlaethol ar gyfer unigolion a sefydliadau gwirfoddol, statudol a phroffesiynol sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghymru. 

Archwilio mwy

our-history.jpg