Hyfforddiant a Digwyddiadau

Mae Plant yng Nghymru yn darparu ystod o gyrsiau hyfforddi amlddisgyblaeth o ansawdd uchel, sy'n defnyddio adnoddau ein tîm staff arbenigol ein hunain, a rhwydwaith cenedlaethol o unigolion a sefydliadau arbenigol.
Hyfforddiant a Digwyddiadau

Safonau hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu cenedlaethol

Mae Plant yng Nghymru yn cynnig hyfforddiant Diogelu yn unol â’r Safonau Hyfforddi, Dysgu a Datblygu Diogelu Cenedlaethol sydd ar gael.

Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed

Mae ein cyrsiau diogelu yn adlewyrchu gofynion o dan y Safonau Gofynnol Cenedlaethol

Hyfforddiant Agored

Mae Plant yng Nghymru yn cynnig rhaglen amrywiol o gyrsiau hyfforddiant agored sy’n cael ei datblygu a’i diweddaru’n barhaus.

Hyfforddiant wedi’i Deilwra

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn prynu un o’n cyrsiau hyfforddi yn benodol ar gyfer eich sefydliad chi, gall Plant yng Nghymru drefnu hynny i chi.

Digwyddiadau

Gweler mwy o wybodaeth am ddigwyddiadau sydd gan Plant yng Nghymru i'w cynnig.

Gweminarau'r Gorffennol

Gweler mwy o wybodaeth am weminarau'r gorffennol gan Plant yng Nghymru

Helpu chi i gyrraedd eich potensial llawn

Mae Plant yng Nghymru yn darparu ystod o gyrsiau hyfforddi amlddisgyblaeth o ansawdd uchel a’r nod yw hyrwyddo dull gweithredu integredig ar gyfer pawb sy’n gweithio yn y sector statudol, y sector annibynnol a’r trydydd sector.

Mae ein cyrsiau yn tynnu ar adnoddau ein tîm staff arbenigol ein hunain, a rhwydwaith cenedlaethol o unigolion a sefydliadau arbenigol. Ein nod yw darparu cyrsiau sy’n ymarferol, yn gyfeillgar, yn ysbrydoledig, ac sy’n adlewyrchu cyd-destun deddfwriaethol a pholisi Cymru.

Rydym yn gallu darparu hyfforddiant pwrpasol ‘yn bersonol’ mewn lleoliad o’ch dewis, neu gallwn ddarparu cyrsiau hyfforddi ar-lein rhyngweithiol byw gan ddefnyddio amrywiaeth o lwyfannau ac offer. Mae'r sesiynau hyn yn gwbl ryngweithiol a gallant ddod ag ymarferwyr at ei gilydd mewn amgylchedd dysgu heb heriau teithio.