Ynghyd â'n cyrsiau cyhoeddus, mae Datblygiad Proffesiynol a Hyfforddiant Plant yng Nghymru yn dylunio ac yn darparu hyfforddiant cwbl bwrpasol ar gyfer sefydliadau ledled Cymru a thu hwnt. Er bod ein rhestrau Eventbrite yn dangos detholiad o bynciau poblogaidd, mae llawer o'n gwaith yn cael ei gomisiynu'n uniongyrchol gan dimau sydd angen hyfforddiant wedi'i deilwra i'w gweithlu, i’w model gwasanaeth neu i’r heriau maen nhw’n eu hwynebu ar hyn o bryd.
Rydym yn addasu cynnwys hyfforddiant, astudiaethau achos a gweithgareddau i adlewyrchu anghenion eich sector penodol, gan sicrhau bod sesiynau'n ymarferol, yn berthnasol ac y gellir eu defnyddio ar unwaith.