Mae’r adnoddau canlynol, sydd ar gael am ddim, yn cynnig camau ac atebion ymarferol ar gyfer dull gweithredu ysgol gyfan a fydd yn helpu i ddileu rhwystrau a ‘chost’ dysgu yn eich ysgol neu eich leoliad trwy eich helpu i ystyried a chyflwyno newid gan ddefnyddio’r Canllawiau Pris Tlodi Disgyblion a’r pecyn cymorth cysylltiedig.
Datblygwyd yr adnoddau hyn yn wreiddiol fel rhan o’r prosiect Pris Tlodi Disgyblion/rhaglen Mynd i’r Afael ag Effaith Tlodi ar Addysg, a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’u hymrwymiad i fynd i’r afael â lefelau cynyddol o dlodi plant a gwella iechyd meddwl, llesiant emosiynol a chyrhaeddiad pob plentyn yng Nghymru. Cewch ddarllen rhagor am y prosiect hwn yma.
Mae’r rhestr gynhwysfawr o adnoddau yn cynnwys:
- Canllawiau Pris Tlodi Disgyblion – sy’n cwmpasu 5 maes allweddol ac yn cynnig atebion cost isel neu atebion heb gost ar gyfer pob un (Deall Tlodi; Gwisg Ysgol a Dillad: Bwyd a Newyn; Cymryd rhan ym Mywyd yr Ysgol; Perthynas rhwng y Cartref a’r Ysgol)
- Pecyn Offer i’ch helpu i roi’r canllawiau ar waith yn eich ysgol neu eich lleoliad – mae hyn yn cynnwys rhestr wirio; templed ar gyfer cynllun gweithredu ac enghraifft o gynllun gweithredu; templed ar gyfer arolwg rhieni; gweithgaredd llais y dysgwr)
- Canllawiau Byr – fersiwn fyrrach o’r Canllawiau llawn, gan gynnwys canllaw ‘ymarferol’
- Canllaw i Lywodraethwyr
- Astudiaethau Achos
- Canllaw byr - Lliniaru Effaith Tlodi mewn addysg STEM
- Canllaw byr – Mynd i’r Afael â Bwlio Cysylltiedig â Thlodi
- Canllaw Ymarfer a Gwybodaeth – cyfle i ddarllen gwybodaeth am ysgolion a lleoliadau sydd wedi bod yn defnyddio adnoddau Pris Tlodi Disgyblion yn llwyddiannus:
‘Mae [yr adnoddau] wedi newid diwylliant yr ysgol gyfan fel bod tlodi ac effaith tlodi yn parhau i fod yn ffocws i ni i gyd.’
‘Bydd yn cael effaith fawr ar eich disgyblion a’ch teuluoedd.’