Hawliau

Mae’r hawliau sydd gan bob plentyn a pherson ifanc dan 18 oed wedi eu nodi’n rhyngwladol yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).  Lluniwyd CCUHP yn 1989 i sicrhau bod hawliau cyffredinol plant yn cael eu cynnal ar draws y byd.  Mae’n disgrifio’r hawliau sylfaenol hyn mewn 41 o erthyglau.

Mae hawliau plant yn ganolog i waith Plant yng Nghymru wrth i ni ymdrechu i sicrhau eu bod nhw’n cael eu cynnal yng Nghymru.  Mae ein gwaith yn y maes hwn yn cynnwys:

  • Cydlynu Grŵp Monitro CCUHP Cymru, sef y gynghrair genedlaethol dros hawliau plant yng Nghymru
  • Ymgysylltu’n rhagweithiol â Llywodraeth Cymru, Comisiynydd Plant Cymru a rhanddeiliaid eraill allanol yng Nghymru, gan gynnwys trwy ein cyfraniad mewn gweithgorau strategol
  • Gweithio gyda’n haelod-sefydliadau i feithrin gallu ar draws y sector a chynyddu ymwybyddiaeth o CCUHP a’i roi ar waith yn ymarferol 
  • Ymgysylltu ag unigolion a sefydliadau allweddol sy’n canolbwyntio ar hyrwyddo CCUHP a’i roi ar waith yn Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon ac Ewrop
  • Cyflwyno hyfforddiant i weithwyr proffesiynol a phobl ifanc ynghylch hawliau plant, cyfranogiad a CCUHP
  • Cynhyrchu adnoddau ac adroddiadau

Grŵp Monitro CCUHP Cymru

Cynghrair genedlaethol o asiantaethau anllywodraethol ac academaidd yw Grŵp Monitro CCUHP Cymru, sydd â’r dasg o fonitro a hyrwyddo CCUHP yng Nghymru.  Sefydlwyd y grŵp yn 2002, ac ers mis Mai 2016, mae wedi cael ei hwyluso gan Plant yng Nghymru.  Mae’r Grŵp wedi gweithio gyda Phwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a chyflwyno adroddiadau cymdeithas sifil i lywio Archwiliadau olynol o Barti Gwladol y Deyrnas Unedig

Nodau Grŵp Monitro CCUHP yw:

  • Cydweithio i sicrhau bod y gwaith o fonitro CCUHP yng Nghymru yn cael ei gydlynu’n effeithiol. Mae hyn yn cynnwys llunio Adroddiadau Cysgodol Cymdeithas Sifil
  • Monitro gweithrediad CCUHP yng Nghymru
  • Hyrwyddo CCUHP, Sylwadau Terfynol y Cenhedloedd Unedig a’r argymhellion a wnaed yn adroddiad y Grŵp Monitro i’r Cenhedloedd Unedig
  • Gweithio i sicrhau bod trefniadau ar waith i roi adroddiadau effeithiol i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn trwy gydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru, plant, pobl ifanc a chyrff anllywodraethol sy’n cydweithio yn y broses hon
  • Hyrwyddo cyfranogiad plant mewn gweithgareddau monitro ac adrodd
  • Nodi cyfleoedd i ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch gweithredu CCUHP
  • Hyrwyddo ymwybyddiaeth o CCUHP ymhlith y cyhoedd, ac ymhlith phlant a phobl ifanc yn arbennig
  • Rhannu gwybodaeth a hyrwyddo rhwydweithiau yng Nghymru sy’n ymwneud â CCUHP
  • Sicrhau bod Cymru’n cael ei chynrychioli mewn fforymau a digwyddiadau sy’n ymwneud â CCUHP ar lefel Cymru a’r Deyrnas Unedig

Mae’r aelodau o’r Grŵp Monitro yn cynrychioli ac wedi’u henwebu gan y cyrff anllywodraethol a’r academyddion canlynol:

  • Plant yng Nghymru
  • Barnardo’s Cymru
  • Cymdeithas y Plant
  • Canolfan Materion Cyfreithiol Cymreig – Prifysgol Aberystwyth
  • Comisiynydd Plant Cymru (sylwedyddion)
  • Cymdeithas Genedlaethol Plant Byddar Cymru
  • NSPCC Cymru
  • Chwarae Cymru
  • Achub y Plant Cymru
  • UNICEF
  • Arsyllfa Cymru ar Hawliau Plant a Phobl Ifanc
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (sylwedyddion)
  • y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru (sylwedyddion)

Bydd sefydliadau eraill yn cael eu gwahodd i gyfarfodydd y Rhwydwaith lle gwelir bod cysylltiad clir â’r agenda.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith hwn, cysylltwch â: Sean O’Neill (Cyfarwyddwr Polisi), e-bost: sean.oneill@childreninwales.org.uk