Y Blynyddoedd Cynnar a CCUHP

Yng Nghymru, mae’r ‘blynyddoedd cynnar’ yn un o’r pum blaenoriaeth trawsbynciol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru. Fe’i diffinnir fel y cyfnod mewn bywyd o’r adeg cyn geni i ddiwedd y Cyfnod Sylfaen, neu 0 i 7 oed.  

Mae’r blynyddoedd hyn yn adeg allweddol i blant. Mae plant yn tyfu’n gyflym ac mae’r amgylchedd maen nhw ynddo yn effeithio ar eu datblygiad corfforol a meddyliol. Mae tair blynedd cyntaf bywyd yn arbennig o bwysig ar gyfer datblygiad iach oherwydd y twf niwrolegol cyflym sy’n digwydd yn y cyfnod hwn. Mae llawer iawn o waith ymchwil sy’n dangos bod buddsoddi ym mlynyddoedd cyntaf bywyd plant yn gwella deilliannau iddyn nhw gydol gweddill eu hoes.

Cytuniad rhyngwladol yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) sy’n disgrifio hawliau plant o dan dair prif ymbarél:

  • Yr hawl i ddarpariaeth (megis darpariaeth iechyd a gwasanaethau addysg)
  • Amddiffyniad (megis yr hawl i amddiffyniad rhag trais)
  • Cyfranogiad (megis cyfranogiad mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar y plentyn)  

Mae gan blant ifanc gysylltiad agos ag uned deuluol. Mae’r Confensiwn yn bendant yn cydnabod ac yn cefnogi rhieni a theuluoedd, y rôl allweddol sydd ganddyn nhw a’u cyfrifoldebau o ran amddiffyn plant a gofalu amdanynt a’u helpu i ddatblygu gwerthoedd a safonau (Erthyglau 5 a 18).

Gall fod perthynas gref rhwng datblygiad polisïau a sut mae cymdeithas yn gweld plant. Ydyn nhw’n ‘llestri gweigion’ ar ddechrau bywyd sy’n cael eu “paratoi i ddysgu” a’u “paratoi ar gyfer yr ysgol” yn ystod y blynyddoedd cynnar? Neu a ydyn nhw’n unigolion chwilfrydig, galluog a deallus, sy’n medru cyd-greu gwybodaeth, ac sydd angen ac eisiau rhyngweithio â phlant ac oedolion eraill?

Heddiw, mae gwleidyddion a llunwyr polisi, ynghyd ag ymchwilwyr ac academyddion, yn ymwybodol o arwyddocâd y blynyddoedd cynnar. Mae polisïau Cymru yn bendant yn nodi, yn cydnabod ac yn buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar, fel y gwelir yn Adeiladu Dyfodol Mwy Disglair: Cynllun Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant, Dechrau’n Deg, Rhaglen Plant Iach Cymru, a’r 1000 Diwrnod Cyntaf.

Yn ogystal â’r ymwybyddiaeth o rôl allweddol profiadau cynnar yng nghyswllt deilliannau iechyd yn ddiweddarach mewn bywyd, mae gwyddoniaeth wedi esbonio ymhellach fod ansawdd amgylcheddau plant yn cael effaith fawr ar eu profiadau cynnar ac yn llywio eu deilliannau iechyd.

Er mwyn deall datblygiad plant yn gyffredinol, a datblygiad unrhyw blentyn penodol, mae angen cadw tair agwedd mewn cof; y plentyn fel unigolyn, ei amgylchedd, a’r diwylliant sosio-economaidd y mae’r plentyn a’r teulu yn rhan ohono (Siraj-Blatchford et al, 2012).

Mae pob plentyn yn unigryw a bydd eu hanghenion yn adlewyrchu hynny; mae’r rhan fwyaf o’r hyn mae plant yn ei ddysgu yn yr ychydig flynyddoedd cyntaf yn cael ei ddarganfod ganddyn nhw eu hunain mewn modd naturiol, yn eu ffordd ac yn eu hamser eu hunain. Mae gan yr amgylchedd mae plant yn tyfu i fyny ynddo, o ran y lle ffisegol a’r amgylchedd cymdeithasol, rôl allweddol yn eu datblygiad. Dyna pam mae angen i’r prif roddwyr gofal ddarparu rhyngweithio a gofal cadarnhaol a meithringar.

Fodd bynnag, mae datblygiad yn digwydd hefyd yn y diwylliant sosio-economaidd y mae’r plentyn yn rhan ohono. Mae 29% o blant yn byw mewn Tlodi1  yng Nghymru. Mae angen i ni sylweddoli bod rhychwant eang o bolisïau yn effeithio ar blant. Er enghraifft, bydd effaith polisïau sy’n ymwneud â threth, budd-dal a chymelliadau yn achosi goblygiadau i lawer o blant. Mae llawer o agweddau ar CCUHP yn cael effaith uniongyrchol ac unigol ar saith mlynedd cyntaf bywyd plentyn.

Cymorth i Deuluoedd a Rhianta 

Gweithgaredd sy’n cael ei gyflawni gan bobl sy’n magu plant yw rhianta. Mae hyn yn cynnwys mamau a thadau, gofalwyr maeth a rhieni mabwysiadol, llys-rieni, a rhieni-cu. Mae awdurdodau lleol hefyd yn gweithredu fel rhieni corfforaethol ar gyfer plant a phobl ifanc yn eu gofal.

Yn Plant yng Nghymru, rydym wedi gweld cefnogi rhieni a theuluoedd fel rhan allweddol o’n gwaith ers blynyddoedd lawer. Mae gan blant ifanc gysylltiad agos ag uned deuluol a dyna pam mae’r Confensiwn yn bendant yn cydnabod ac yn cefnogi rhieni a theuluoedd, y rôl allweddol sydd ganddyn nhw a’u cyfrifoldebau o ran amddiffyn plant a gofalu amdanynt a’u helpu i ddatblygu gwerthoedd a safonau (Erthyglau 5 a 18).

Cytunir yn gyffredinol bod cefnogi teuluoedd mewn ffyrdd sy’n briodol i’w hanghenion yn bwysig, er mwyn datblygu a meithrin gwydnwch a hunanddibyniaeth. Drwy sicrhau bod gan deuluoedd y sgiliau a’r cymorth angenrheidiol ar yr adeg gynharaf posibl ac adeiladu ar gryfderau rhieni, gallwn eu helpu i greu amgylcheddau sy’n cefnogi ac yn cyfoethogi eu plant. Bydd hyn yn rhoi pob cyfle iddyn nhw gyflawni eu potensial yn unol â saith nod craidd Llywodraeth Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc. 

Mae’r saith nod yn crynhoi CCUHP ac yn creu sylfaen ar gyfer penderfyniadau ynghylch blaenoriaethau ac amcanion ar lefel genedlaethol.

  • Cael dechrau da mewn bywyd (Erthyglau 3, 29, 36)
  • Cael ystod gynhwysfawr o gyfleoedd dysgu ac addysg (Erthyglau 23, 28, 29, 32)
  • Mwynhau’r iechyd gorau posibl a rhyddid rhag camdriniaeth, erledigaeth ac ecsbloetio (Erthyglau 6, 18-20, 24, 26-29, 32-35, 37, 40)
  • Cael mynediad i weithgareddau chwarae, hamdden, chwaraeon a diwylliannol (Erthyglau 15, 20, 29, 31)
  • Cael gwrandawiad, eu trin â pharch, a bod eu hil a’u hunaniaeth yn cael eu cydnabod (Erthyglau 2, 7, 8, 12-17, 20)
  • Cael cartref diogel a chymuned sy’n cefnogi llesiant corfforol ac emosiynol (Erthyglau 19, 20, 25, 27, 32-35, 37, 37, 40)
  • Peidio â dioddef anfantais oherwydd tlodi (Erthyglau 6, 26, 27, 28)

Adnoddau Pellach