Sefydliadau Plant y Trydydd Sector

Mae sefydliadau trydydd sector yn darparu ystod eang o gefnogaeth a gwasanaethau uniongyrchol i blant, pobl ifanc a theuluoedd ledled Cymru.  Plant yng Nghymru yw’r corff trosfwaol cenedlaethol ar gyfer sefydliadau plant yng Nghymru, ac felly mae’n cyflawni nifer o weithgareddau yn benodol i gefnogi sefydliadau yn y trydydd sector.

Mae ein gwaith yn y maes hwn yn cynnwys:

  • Cynrychioli’r trydydd sector trwy’r Rhwydwaith Plant a Theuluoedd ar Gyngor Partneriaeth Trydydd Sector (TSPC) Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), sy’n cynnwys cyfrannu at gyfarfodydd thematig gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru
  • Cydlynu Grŵp Cenedlaethol Swyddogion Polisi Cyrff Anllywodraethol (NGO) a Grŵp Cenedlaethol Cyfarwyddwyr Plant Cyrff Anllywodraethol
  • Gweithio gyda’n haelod-sefydliadau i lywio ein harolygon, ein hadroddiadau a’n cyhoeddiadau
  • Nodi cyfleoedd i hyrwyddo materion allweddol ar gyfer sefydliadau plant y trydydd sector yng Nghymru
  • Darparu hyfforddiant a digwyddiadau fydd yn gwella dealltwriaeth a gwybodaeth am faterion polisi ac ymarfer allweddol sydd o ddiddordeb i sefydliadau plant y trydydd sector
  • Darparu gwybodaeth a gwasanaeth cyfeirio ar gyfer ein haelodau trydydd sector 

Grŵp Cenedlaethol Swyddogion Polisi Cyrff Anllywodraethol

Mae’r grŵp hwn yn cynnwys Swyddogion Polisi sy’n gweithio i gyrff gwirfoddol cenedlaethol ar gyfer plant yng Nghymru.

Mae aelodau’r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr y sefydliadau canlynol:

  • Gweithredu dros Blant Cymru
  • Barnardo’s Cymru
  • Plant yng Nghymru
  • NSPCC Cymru
  • The Prince’s Trust Cymru
  • Achub y Plant Cymru
  • Cymdeithas y Plant Cymru
  • TGP Cymru
  • Comisiynydd Plant Cymru (sylwedyddion)

I gael rhagor o wybodaeth am waith y grŵp hwn, cysylltwch â: Sean O’Neill (Cyfarwyddwr Polisi), e-bost: sean.oneill@childreninwales.org.uk

Grŵp Cenedlaethol Cyfarwyddwyr Plant Cyrff Anllywodraethol

Mae’r grŵp hwn yn cynnwys Cyfarwyddwyr cyrff gwirfoddol cenedlaethol ar gyfer plant yng Nghymru. Maen nhw’n cydweithio’n agos â’r grŵp Swyddogion Polisi uchod, gan ddarparu cyfeiriad strategol er mwyn llywio meysydd blaenoriaeth.