Mae'r Rhwydwaith Ymchwil Plant yn fforwm ar gyfer trafod y datblygiadau ymchwil diweddaraf mewn perthynas â materion plant. Mae'r rhwydwaith yn darparu cyfleoedd i gydweithio, rhannu ymarfer a thrafod meysydd sydd o ddiddordeb cyffredin neu a rennir ym maes polisi ac ymchwil plant. Caiff y rhwydwaith ei gydlynu a'i reoli o ddydd i ddydd gan Plant yng Nghymru.