Mae’n bleser gan Plant yng Nghymru fod yn gweithio mewn partneriaeth â Trafnidiaeth Cymru i gefnogi datblygiad ei Banel Cynghori Pobl Ifanc cyntaf erioed.
Gan adeiladu ar ein harbenigedd mewn cyfranogiad ieuenctid ac ymgysylltu sy'n seiliedig ar hawliau, mae Plant yng Nghymru yn cefnogi’r gwaith o recriwtio pobl ifanc 16-21 oed o bob cwr o Gymru i ymuno â'r panel a helpu i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed mewn penderfyniadau ynghylch dyfodol trafnidiaeth.
Mae'r panel newydd yn rhan o gydweithrediad ehangach rhwng Plant yng Nghymru a Trafnidiaeth Cymru, gyda'r nod o ymgorffori profiadau a safbwyntiau pobl ifanc mewn gwasanaethau a pholisi trafnidiaeth. Drwy ddod â grŵp amrywiol o bobl ifanc o wahanol gefndiroedd a chymunedau ynghyd, bydd y panel yn creu lle pwrpasol i bobl ifanc rannu eu barn a dylanwadu ar newid.
Bydd cyfle gan aelodau’r panel i weithio’n uniongyrchol gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ym maes trafnidiaeth, gan helpu i lunio gwasanaethau sy’n ddiogel, yn hygyrch, yn gynaliadwy ac yn ymatebol i anghenion pobl ifanc ledled Cymru.
Beth fydd y Panel Cynghori Pobl Ifanc yn ei wneud?
Bydd aelodau'r panel yn:
- Cwrdd â phobl sy'n gwneud penderfyniadau ar drafnidiaeth a dylanwadu arnyn nhw
- Cymryd rhan mewn pedwar cyfarfod a gaiff eu cynnal dros gyfnod o flwyddyn, ar-lein ac wyneb yn wyneb
- Ymuno â digwyddiadau ac ymgynghoriadau trafnidiaeth allweddol
- Ein helpu i daclo rhwystrau i drafnidiaeth wyrddach
Mae hwn yn gyfle cyffrous i bobl ifanc wneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy rannu eu syniadau, eu profiadau a'u mewnwelediadau, gan helpu i wella trafnidiaeth ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
Os wyt ti'n berson ifanc rhwng 16 a 21 oed ac eisiau cymryd rhan, neu os wyt ti'n adnabod rhywun a allai fod â diddordeb, dyma dy annog i lenwi neu rannu'r ffurflen mynegiant diddordeb isod.
Cymer ran
Ffurflen Mynegi Diddordeb
Am ragor o wybodaeth am brosiectau a phartneriaethau Plant yng Nghymru, cysyllta â Kate Thomas, Rheolwr Prosiectau a Phartneriaethau, kate.thomas@childreninwales.org.uk.