Maniffesto CCUHP 2026

Mae Grŵp Monitro CCUHP Cymru wedi cyhoeddi ei flaenoriaethau cyn Etholiad y Senedd 2026, gan alw ar Lywodraeth nesaf Cymru i gryfhau hawliau plant yng Nghymru. Mae Grŵp Monitro CCUHP Cymru, dan reolaeth Plant yng Nghymru, yn gynghrair genedlaethol o asiantaethau anllywodraethol ac academaidd, sydd â'r dasg o fonitro a hyrwyddo Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yng Nghymru. 

Mae'r Grŵp Monitro yn eirioli dros ddeddfwriaeth newydd sy'n ymgorffori CCUHP yn llawn ac yn uniongyrchol yng nghyfraith Cymru, a fyddai'n adeiladu ar y ddeddfwriaeth bresennol ac yn debyg yn rhannol i ddeddfwriaeth ddiweddar a gyflwynwyd yn yr Alban. Byddai hyn yn darparu’r gallu cyfreithiol i orfodi hawliau plant yn unigol, yn ogystal â gwneud Asesiadau o Effaith ar Hawliau Plant yn ofyniad statudol a sicrhau bod pob corff cyhoeddus yng Nghymru yn gweithredu'n gydnaws â CCUHP wrth arfer swyddogaethau datganoledig.


"Mae Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol dros flynyddoedd lawer o ran datblygu a hyrwyddo hawliau plant, yn enwedig drwy’r ddeddfwriaeth bresennol sy'n gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi 'sylw dyladwy' i CCUHP. Fodd bynnag, mae gan gyfraith gyfredol Cymru ei chyfyngiadau ac nid yw'n cynnwys trefniadau atebolrwydd digonol nac yn darparu llwybr cyfreithiol i blentyn neu ei gynrychiolydd wneud her gyfreithiol. Yn flaenorol, roedd Cymru ar flaen y gad ymhlith awdurdodaethau'r Deyrnas Unedig, ac mae'n rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru gymryd camau i adennill ein safle blaenorol"
- Sean O'Neill, Cynullydd, Grŵp Monitro CCUHP Cymru a Chyfarwyddwr Polisi, Plant yng Nghymru