Maniffesto ar gyfer babanod, plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Etholiad y Senedd 2026
Mae Cynghrair Anghenion Ychwanegol y Trydydd Sector (TSANA) wedi cyflwyno’i flaenoriaethau ar gyfer Etholiad y Senedd yn 2026, gan alw ar bob plaid wleidyddol ac ymgeisydd i wneud ymrwymiad amlwg i gefnogi pob baban, plentyn a pherson ifanc yng Nghymru sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
Clymblaid o gyrff trydydd sector sy’n cefnogi babanod, plant a phobl ifanc ag ADY yw TSANA. Ers dros ddegawd, mae wedi bod yn codi llais dros eu hawliau, yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).
Cyn y tymor Senedd nesaf, mae TSANA yn galw ar bob plaid wleidyddol i sicrhau bod:
-
Argymhellion yr adolygiad o fframwaith deddfwriaethol ADY yn cael eu gweithredu
-
Monitro cyson ar ddiwygio ADY yn parhau
-
Pob buddsoddiad presennol a neilltuwyd ar gyfer cyflwyno ADY yn cael ei gynnal
Yn ogystal â’r galwadau trosfwaol hyn, mae TSANA wedi nodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu:
-
Datblygu dull ysgol gyfan neu leoliad cyfan o gefnogi pob plentyn sydd ag ADY.
-
Sicrhau bod hawliau plant yn cael eu cynnal, fel eu bod yn gallu cael mynediad teg at ddarpariaeth a chefnogaeth ADY priodol, gan ddileu effaith y loteri côd post.
-
Sicrhau bod pob pontio yn cael ei ystyried yn briodol, gan gynnwys babanod, plant a phobl ifanc a chlywed eu lleisiau.
I gael rhagor o fanylion, darllenwch adolygiad Llywodraeth Cymru o fframwaith deddfwriaethol ADY, sydd ar gael yma Adolygiad o fframwaith deddfwriaethol Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) | LLYW.CYMRU