Ar 28 Ionawr 2020 cafwyd pleidlais dirnod yn y Senedd, lle pleidleisiodd Aelodau Cynulliad o 36 i 14 o blaid cymeradwyo’r Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru). Bydd y gyfraith newydd yn dod i rym yn 2022, yn dilyn ymgyrchoedd ymwybyddiaeth helaeth ledled Cymru i sicrhau bod rhieni’n gwybod ac yn deall y newidiadau o dan y gyfraith newydd.

Dywedodd Catriona Williams OBE, Prif Weithredwr Plant yng Nghymru (sydd hwyrach wedi ymddeol) “Mae Bil Plant Cymru yn garreg filltir arall at weithredu hawliau dynol plant yng Nghymru. Rwy’n falch dros ben o fod yn rhan o foment hanesyddol yng Nghymru.”

Dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru “Rwy’n ymfalchïo yn y ffaith bod Cymru wedi cymryd y cam hwn ac unwaith eto wedi gwneud hawliau plant yn ganolog i’n gwaith yma yng Nghymru.”

Dywedodd yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru: “Rydw i’n eithriadol o falch ac wrth fy modd bod Cymru wedi ymuno â dwsinau o wledydd eraill ar draws y byd i roi’r un amddiffyniad rhag cosb gorfforol i blant ag sydd gan oedolion. Dyw hi byth yn iawn taro plentyn – llongyfarchiadau i Lywodraeth Cymru ac i aelodau’r Senedd sydd wedi rhoi blaenoriaeth i hawliau plant trwy basio’r ddeddfwriaeth hon.”