
Mynediad i Brifysgol
Bu cynnydd o 2.6% yn y bobl ifanc o Gymru sy’n ymrestru mewn prifysgolion yn y Deyrnas Unedig a chynnydd o 9.2% yn yr ôl-raddedigion o Gymru, yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu Strategaeth Tlodi Plant heddiw.
Mae Plant yng Nghymru yn croesawu'r strategaeth, ac wedi bod yn gweithio gyda 14 o sefydliadau partner i ffurfio'r datganiad isod.
Datganiad ar y cyd
Mae bron i draean o blant Cymru yn byw mewn tlodi. Mae ein sefydliadau yn gweld yr effaith hynod o ddinistriol y mae byw mewn tlodi yn cael ar blentyndod yng Nghymru.
Fel sefydliadau hawliau plant, a llawer ohonym hefyd yn aelodau o grŵp Cyfeirio Allanol y Llywodraeth ar gyfer y strategaeth, rydym yn siomedig iawn nad yw Gweinidogion wedi gwrando ar ein galwadau am gynllun gweithredu cadarn gyda thargedau mesuradwy.
Er ein bod yn croesawu y ffaith bod y Llywodraeth yn cyfeirio yn uniongyrchol at hawliau plant a dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant yn y strategaeth ddiwygiedig hon, mae agwedd sylfaenol ar goll: atebolrwydd. Roedd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn glir: Mae angen i’r Llywodraeth "...datblygu neu gryfhau polisïau presennol, gyda thargedau clir, dangosyddion mesuradwy a mecanweithiau monitro ac atebolrwydd cadarn, i roi terfyn ar dlodi plant a sicrhau bod gan bob plentyn safon bywyd da."
Rydym wedi cael addewid o fframwaith monitro, ond nid ydym wedi cael unrhyw syniad pryd y bydd hwn ar waith na beth fydd yn ei gynnwys. Tan hynny, ni fyddwn yn gwybod a yw arian cyhoeddus sy’n cael ei wario yng Nghymru yn cyrraedd y plant hynny y mae eu bywydau’n cael eu heffeithio mor ddifrifol.
Bu cynnydd o 2.6% yn y bobl ifanc o Gymru sy’n ymrestru mewn prifysgolion yn y Deyrnas Unedig a chynnydd o 9.2% yn yr ôl-raddedigion o Gymru, yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch