Cyn etholiad 2025, cyhoeddodd Plaid Cymru fap ffordd yn nodi ei blaenoriaethau ar gyfer 100 diwrnod cyntaf y llywodraeth. Wrth i'r garreg filltir hon agosáu ar 15 Awst, mae Plant yng Nghymru wedi datblygu briff sy'n rhoi trosolwg o'r datblygiadau allweddol a'r cynnydd a wnaed yn erbyn amcanion ac ymrwymiadau datganedig Llywodraeth newydd Cymru yn ystod ei 100 diwrnod cyntaf. Mae hefyd yn ystyried beth allai'r datblygiadau hyn ei olygu i fabanod, plant a phobl ifanc ledled Cymru.

Mae'r briff yn tynnu sylw at ffocws cynnar cryf ar faterion sy'n effeithio ar blant a theuluoedd, gan gynnwys tlodi plant, gofal plant, addysg, iechyd ataliol a hawliau plant. Mae hefyd yn ystyried datblygiadau allweddol o fewn y Senedd, gan gynnwys sefydlu Pwyllgor Blynyddoedd Cynnar, Plant, Pobl Ifanc ac Addysg newydd i graffu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc.

Mae'r briff hefyd yn archwilio cynnydd mewn meysydd gan gynnwys datblygu Strategaeth Tlodi Plant newydd, cynlluniau ar gyfer cynllun Taliad Plant Cymru (Cynnal), ehangu gofal plant a ariennir, cyflwyno prydau ysgol am ddim, ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymgorffori'r CCUHP ymhellach yng nghyfraith Cymru.

Wrth gydnabod datblygiadau cadarnhaol, bydd Plant yng Nghymru yn parhau i eiriol dros gamau gweithredu uchelgeisiol, gan gynnwys targedau clir a mesurau atebolrwydd i sicrhau bod ymrwymiadau'n trosi'n welliannau ystyrlon ym mywydau babanod, plant a phobl ifanc ledled Cymru.

Darllenwch y briff yma: [link]