Mae tocynnau bellach ar gael yn gyffredinol ar gyfer Cynhadledd Flynyddol Plant yng Nghymru 2026, Lleisiau ar Waith: Rhoi Cyfranogiad wrth Galon Newid. Cynhelir y gynhadledd ar 25 Mawrth 2026 yn Adeilad SBARC, Caerdydd, gan ddod â gweithwyr proffesiynol, llunwyr polisi, ymarferwyr a phobl ifanc o bob cwr o Gymru ynghyd.
Gan ganolbwyntio ar gyfranogiad, profiad bywyd a gwella canlyniadau i fabanod, plant a phobl ifanc, bydd y diwrnod yn cynnig lle ar gyfer dysgu, myfyrio a gweithredu ar y cyd.
Bydd y gynhadledd yn agor gydag anerchiad gan ein Prif Swyddog Gweithredol, Hugh Russell, wedyn prif anerchiad gan yr Athro Laura Lundy, sy’n awdurdod blaenllaw ar hawliau a chyfranogiad plant. Bydd ei hanerchiad yn archwilio sut y gellir ymgorffori lleisiau plant yn ystyrlon mewn gwneud penderfyniadau, a bydd mynychwyr hefyd yn gallu ymgysylltu'n uniongyrchol trwy sesiwn holi ac ateb penodol.
Mae'r rhaglen yn cynnwys amrywiaeth eang o weithdai ac arddangosfeydd. Bydd Babylab Prifysgol Caerdydd, Live Music Now, ein Llysgenhadon ADY a Chaffi’r Byd cydweithredol yn ymuno â ni. Bydd Cyswllt Rhieni Cymru yn arddangos dull creadigol o ymgynghori sy'n seiliedig ar gelf, a bydd rhieni o Voice4Bettws yn rhannu eu hyfforddiant ADY dan arweiniad rhieni ar gyfer gweithwyr proffesiynol. Bydd anerchiad hefyd gan Jan Pickles OBE, awdur Cyfiawnder Trwy ein Dewrder. Bydd y diwrnod hefyd yn cynnwys Adolygiad Cyfranogiad gyda Chomisiynydd Plant Cymru, Roccio Cifuentes, ynghyd â cherddoriaeth fyw i greu lle i fyfyrio a chysylltu.
Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth ein partneriaid. Datrysiad meddalwedd cynhwysfawr yw Clearcare Solutions, ein Partner Swyddogol, sydd wedi'i gynllunio i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc mewn gofal drwy leihau beichiau gweinyddol ar ddarparwyr. Mae ein Cefnogwr Swyddogol, OneTouch tri.x, yn bartner blaenllaw mewn gweithdrefnau gofal cymdeithasol ar-lein, ac mae’n arbenigo mewn creu, diweddaru a chynnal gweithdrefnau sy'n bodloni gofynion statudol a rheoleiddiol, yn adlewyrchu arfer gorau ac yn cefnogi timau i gyflawni'r canlyniadau gorau i blant, teuluoedd, oedolion a gofalwyr. Mae ein Hyrwyddwr Swyddogol, Techsol, yn darparu atebion trawsnewid digidol blaenllaw yn y diwydiant i helpu ein cwsmeriaid fwyhau eu llwyddiant.